Capel Llwynrhydowen
Capel ger Rhydowen, Ceredigion yw Capel Llwynrhydowen. Adeiladwyd y capel Undodaidd hwn yn 1834.[1]
Math | capel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Rhydowen |
Sir | Llandysul |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 159.6 metr |
Cyfesurynnau | 52.0833°N 4.27277°W |
Cod post | SA44 4QB |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguDechreuodd yr achos yn Llwynrhydowen yn 1726 ac adeiladwyd y capel cyntaf yn 1733. Wrth i'r gynulleidfa dyfu yn 1745, codwyd estyniad a'i orffen yn 1791. Adeiladwyd y capel presennol, y trydydd, yn 1834. Llwynrhydowen oedd capel Arminaidd cyntaf Cymru, a throdd nifer o gapeli Arminaidd yn rhai undodaidd maes o law.[2]
Caeodd y capel yn y 1960au.
Gwilym Marles a sgweiar Alltyrodyn 1876
golyguAdeg etholiad cyffredinol 1868, penderfynodd rhai o ffermwyr Sir Aberteifi beidio â phleidleisio yn ôl dymuniad eu tirfeddianwyr Torïaidd. Cafodd cynulleidfa'r capel eu cloi allan o'r adeilad a'r fynwent yn 1876 am nad oedd John Lloyd Davies, sgweiar Alltyrodyn, yn cytuno gyda daliadau radical y gweinidog, Gwilym Marles. Cwynai Lloyd fod ideoleg Undodaidd ‘radicalaidd’, gwrth-Dorïaidd, yn torri amodau eu prydles.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Apêl i achub capel Llwynrhydowen yng Ngheredigion. BBC Cymru (1 Chwefror 2015).
- ↑ Un o gapeli’r ‘Smotyn Du’ yn derbyn £200,000. golwg360.com (24 Mawrth 2014).
- ↑ Arwr y Troad Allan : hen ewythr Dylan Thomas - cofnod ar flog Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan Heini Davies, 30 Hydref 2014