Gyriant pedair olwyn

Math o system gyriant i gerbydau yw gyriant pedair olwyn, 4×4 ("pedair wrth bedair"), a 4WD ble mae pob un o'r pedair olwyn yn cael eu pweru. Gall y gyriant fod yn barhaol neu yn ôl yr angen; weithiau mae'r pwer yn troi'r ddwy echel yn hytrach na'r olwynion a gelwir y math hwn yn "all-wheel drive" (AWD). Ond mae "gyriant pedair olwyn" yn cyfeirio at gydrannau arbennig a phwrpas y cerbyd (offroader yn aml).

4x4 cynnar
4x4 cynnar gan y cwmni Rwsiaidd GAZ; 1938
Ferrari FF (4x4); 2011–2016
Ferrari FF (4x4); 2011–2016
Ceir cludo teithwyr; gyriant 4-olwyn.

Datblygwyd systemau 4×4/4WD/AWD mewn gwledydd gwahanol ar gyfer cerbydau gwahanol ac nid oes un safon rhyngwladol nag un diffiniad absoliwt o'r gair.[1] Mae'r amrywiaethau felly o'r defnydd a roddir i'r term, yn cael ei lywio gan y farchnad - y prynnwr potensial - yn hytrach na pheirianneg a thechnoleg.[2][3]

4x4 cynnar
Willys MB (neu'r 'Jeep'); 1941
Range Rover Evoque
Range Rover Evoque SD4 4WD Prestige; 2011
Offroaders gyriant 4-olwyn.

Yn ogystal â gyriant 4-olwyn, ceir gyriant dwy olwyn; y dewis yma yw: 'gyriant blaen' neu 'gyriant ôl'. Wrth i geir trydan ddatblygu, yn enwedig rhai 'Llwyr Drydan' (EV) ceir system gyrru pob olwyn yn annibynnol o'i gilydd, gyda modur ar bob olwyn yn hytrach nag un injan mawr.

Hanes golygu

Yn 1893, rhoddodd y peiriannydd Bramah Joseph Diplock batent ar system gyriant-pedair-olwyn ar gfer injan tracsiwn. Roedd ei system olwynion wedi ei chreu'n unswydd ar gyfer wyneb garw offroad.

Yn 1900 arddangoswyd car 4x4 trydan, gyda phob un o'r olwynion yn cael eu troi gan fodur trydan; cynllunydd y car oedd Ferdinand Porsche. Prynnwyd y car gan E.W. Hart ac roedd ei allu i gyflymu'n arbennig o gry, a thorwyd sawl record. Galwyd y math hwn yn Lohner-Porsche.

Rhai cerbydau offroaders golygu

Blwyddyn Cynhyrchwyd Model/Cyfres Màs Milwrol
1941 GAZ GAZ-64 x
1941 Willys-Overland Willys MA/MB x
1941 Volkswagen Typ 128 Schwimmwagen x
1945 Willys CJ-2A x
1946 Dodge Power Wagon x
1947 Jeep Willys truck x
1948 Ford F-series x
1948 Rover Land Rover x
1951 Alfa Romeo Alfa Romeo Matta x
1951 Austin Motor Company Austin Champ x
1951 Fiat Fiat Campagnola x
1951 Nissan Nissan Patrol x
1954 Toyota Land Cruiser x
1956 Auto Union DKW Munga x
1963 Kaiser Jeep Wagoneer (SJ) x
1968 Suzuki Lj10 x
1970 British Leyland Range Rover x
1972 UAZ UAZ-469 x
1976 Lada Lada Niva x
1979 Mercedes-Benz G-Class x
1982 Mitsubishi Pajero x

Cyfeiriadau golygu

  1. Mohan, Sankar (12 Mehefin 2000). "All - Wheel Drive / Four - Wheel Drive Systems and Strategies". Seoul 2000 FISITA World Automotive Congres. http://210.101.116.115/fisita/pdf/A014.pdf. Adalwyd 2016-12-29.
  2. Andreev, Alexandr F.; Kabanau, Viachaslau; Vantsevich, Vladimir (2010). Driveline Systems of Ground Vehicles: Theory and Design. CRC Press. t. 34.
  3. Dykes, Alex. "Alphabet Soup: 4×4 vs 4WD vs AWD Where's the Differential?". thetruthaboutcars.com. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2015.[dolen marw]