Cadog
Roedd Sant Cadog, weithiau Catwg (neu Catwg Ddoeth yn ffugiadau Iolo Morgannwg), yn un o'r pwysicaf o'r seintiau Cymreig yn y 6g. Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd clas Llancarfan ym Mro Morgannwg.
Cadog | |
---|---|
Delw o Sant Cadog, yn Belz yn Llydaw. | |
Ganwyd | 497 Sir Forgannwg |
Bu farw | 580 Benevento |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Blodeuodd | 6 g |
Swydd | esgob, abad |
Dydd gŵyl | 24 Ionawr |
Tad | Gwynllyw |
Mam | Santes Gwladys |
Bywgraffiad
golyguYsgrifennwyd Buchedd Cadog tua 1100 gan Lifris o Lancarfan in circa 1100, c ysgrifennwyd un arall o waith Caradog o Lancarfan rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Nid oes llawer o werth hanesyddol iddynt, ond dywedir fod Cadog yn fab i Gwynllyw, brenin Gwynllŵg yn ne Cymru, brawd Sant Pedrog. Dywedir i Gwnllyw gipio buwch yn perthyn i'r mynach Gwyddelig Sant Tathyw, a phan ddaeth Tathyw ato i hawlio ei fuwch yn ôl, penderfynodd Gwynllyw roi ei fab iddo i'w addysgu.
Bu Cadog yn efengylu yng Nghymru a Llydaw, ac mae nifer sylweddol o eglwysi a chysylltiad ag ef yn y ddwy wlad, er enhraifft Llangadog yn Sir Gaerfyrddin, Belz, Locoal-Mendon a Gouenac'h yn Llydaw. Dywedir iddo hefyd adeiladu mynachlog yn yr Alban islaw "Mynydd Bannauc" (yn ôl y farn gyffredinol, i'r de-orllewin o Stirling). Yn ôl ei fuchedd aeth ar brererindod i Rufain a Jerusalem, a daeth i wrthdrawiad a'r Brenin Arthur ac a Maelgwn Gwynedd. Dywedir iddo dreulio cyfnod yn byw fel meudwy gyda Gildas ar ynys ym mae Morbihan yn Llydaw.
Ffugiadau Iolo Morganwg
golyguTadogodd yr hynafiaethydd a ffugiwr traddodiad enwog Iolo Morgannwg gyfres o drioedd diarebol a dywediadau ar Sant Cadog/Catwg dan yr enw "Trioedd Catwg Ddoeth".
Gŵyl mabsant
golyguEi ddydd gŵyl yw 24 Ionawr (ac weithiau ar y 25 Ionawr).[1] Gelwir arno i iachau byddardod.
Eglwysi
golyguRhestr Wicidata:
Llyfryddiaeth
golygu- E.G. Bowen, Saints, Seaways and Settlements in the Celtic Lands (Gwasg Prifysgol Cymru, 1969)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ oxfordindex.oup.com;[dolen farw] adalwyd 24 Ionawr 2017.