Roedd Carchar y Fflyd (Saesneg: Fleet Prison) yn garchardy enwog yn Llundain. Cafodd yr adeilad cyntaf ar y safle ei godi yn 1197, ger y Stryd Farringdon bresennol, ar lan ddwyreiniol Afon Fflyd (sy'n rhoi i enw i Stryd y Fflyd/Fleet Street). Daeth yn adnabyddus yn ddiweddarach fel carchar arbennig ar gyfer gwrthwynebwyr gwleiddydol a yrrid yno gan y Star Chamber, ac ar ôl hynny fel carchar i fethdalwyr ac eraill. Yn 1381, yn ystod Gwrthryfel y Werin, cafodd ei ddinistrio, ac yn 1666, yn ystod Tân Mawr Llundain, fe'i llosgwyd i lawr, ond cafodd ei godi o'r newydd yn y ddau achos.

Carchar y Fflyd
Mathcarchar Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLlundain
Sefydlwyd
  • 1197 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5161°N 0.105°W Edit this on Wikidata
Map

Yn y 18g, defnyddiwyd y carchar i ddal methdalwyr yn bennaf. Roedd yn dal o gwmpas 300 o garcharorion a'u teuluoedd. Arferai rhai o'r carcharorion fegera o ffenestri'r celloedd wrth i bobl fynd heibio, er mwyn cael pres i dalu am eu bwyd a'u lle (roedd carchardai Prydain yn fentrau masnachol dan drwydded). Carchar y Fflyd oedd y drutaf yn Lloegr. Ond nid oedd rhaid aros yn y carchar ei hun bob tro; roedd carcharorion gyda digon o bres neu ffrindiau dylanwadol yn medru aros mewn ardal gerllaw a elwid "Liberty of the Fleet", cyn belled â'u bod yn talu'r gwarcheidwaid. O 1613 ymlaen, ceir enghreifftiau o bobl yn priodi yn y Fflyd hefyd.

Am gyfnod hir roedd y Fflyd yn enwog am greulondeb ei wardiaid, penaethiaid y carchar. Gan amlaf roeddent yn cael y swydd trwy ei phrynu ac felly'n ceisio elwa cymaint â phosibl o'r sefyllfa. Dinistriwyd y Fflyd unwaith yn rhagor yn 1780 yn ystod Terfysgoedd Gordon a'u hailadeiladu yn 17811782. Yn 1842 cafodd ei gau am byth ac yn 1844 gwerthwyd yr adeiladau i gorfforaeth Dinas Llundain, a'i dynnodd i lawr yn 1846.

Preswylwyr enwog golygu

Cyfeiriadau golygu

  • Ben Weinreb a Christopher Hibbert, The London Encyclopaedia (Macmillan, 1995)