John Cleland
Nofelydd o Loegr oedd John Cleland (bedyddwyd 24 Medi 1709 – 23 Ionawr 1789), a aned yn Llundain. Ei waith mwyaf adnabyddus o lawer yw'r nofel erotig Fanny Hill: or, the Memoirs of a Woman of Pleasure (1750).
John Cleland | |
---|---|
Ganwyd | 24 Medi 1709 Kingston upon Thames, Llundain |
Bu farw | 23 Ionawr 1789 Dinas Westminster, Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, dramodydd, newyddiadurwr |
Tad | William Cleland |
Bywgraffiad
golyguRoedd William Cleland, tad John, yn gyfaill i'r bardd a llenor Alexander Pope. Cafodd ei addysg yn Ysgol Westminster, Llundain, hyd 1723. Ymunodd am gyfnod gyda'r gwasanaeth diplomyddol ac roedd yn gonswl yn Smyrna, Twrci, cyn mynd i weithio i Gwmni India'r Dwyrain. Treuliodd gyfnod wedyn yn teithio yn ôl ei fympwy o gwmpas cyfandir Ewrop a chyrhaeddodd yn ôl i Lundain yn 1740.
Gorffenodd ysgrifennu Fanny Hill pan fu'n garcharor am fethdaliaeth yng Ngharchar y Fflyd, Llundain. Mae ei weithiau eraill yn cynnwys Memoirs of a Coxcomb (1751) a The Surprises of Love (1764). Ysgrifennodd yn ogystal sawl drama, nas cyhoeddwyd, a nifer o gerddi.
Ar ddiwedd ei oes, troes at ieithyddiaeth a cheisiodd brofi mai'r Gelteg oedd yr iaith Ewropeaidd gysefin. Bu farw mewn tlodi yn Westminster yn 1789.