Pistyll

pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan, plwyf eglwysig a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Pistyll ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Gorwedd ar arfodir gogleddol penrhyn Llŷn, ar y ffordd B4417, ychydig i'r dwyrain o Nefyn.

Pistyll
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.952°N 4.492°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000096 Edit this on Wikidata
Cod OSSH326423 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Mae eglwys Pistyll, a gysegrir i Sant Beuno, yn sefydliad hynafol, gyda bedyddfaen or 12g ynddi.

Heblaw pentref Pistyll, mae cymuned a phlwyf Pistyll yn cynnwys pentref mwy Llithfaen a phentref Nant Gwrtheyrn, sydd yn awr yn ganolfan ar gyfer dysgu Cymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pistyll (pob oed) (566)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pistyll) (381)
  
69%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pistyll) (381)
  
67.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Pistyll) (90)
  
37.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato