Dinllaen
Un o dri chwmwd cantref Llŷn yn yr Oesoedd Canol oedd Dinllaen. Gorweddai ar arfordir gogleddol y cantref, yng nghanol Penrhyn Llŷn. Ystyr 'Dinllaen' yw 'Caer Llŷn'.
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.935°N 4.524°W |
Ffiniai Dinllaen â chymydau Cymydmaen a Cafflogion i'r de, ei chymdogion yng nghantref Llŷn, Eifionydd i'r dwyrain, a rhan de-orllewinol cwmwd Uwch Gwyrfai yn Arfon i'r gogledd-ddwyrain. Mae'n wynebu Bae Caernarfon ac Iwerddon i'r gogledd ac ymestyn o'r Eifl yn y gogledd i Garn Fadryn i'r de.
Lleolid llys a chanolfan weinyddol y cwmwd yn Nefyn, prif ganolfan weinyddol y cantref. Yma y tyfodd bwrdeistref fechan Gymreig a ddaeth yn ddiweddarach yn fwrdeistref dan y drefn Seisnig ar ôl 1284. Ar wahân i Nefyn, "trefi" canoloesol bychan a geid yn y cwmwd. Erys enwau rhai ohonynt ar bentrefi'r ardal heddiw, e.e. Morfa Nefyn a Llithfaen.
Gorweddai Dinllaen ar lwybr y bererindod i Ynys Enlli, ac mae ei brif ganolfannau crefyddol i'w cael ar y llwybr hwnnw neu'n agos iddo, yn enwedig Pistyll, Ceidio, Tudweiliog a Llandudwen.
Plwyfi
golyguFfynhonnell
golygu- A. D. Carr, 'Medieval Administrative Divisions', yn Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1977)