Carnwyllion
Gorweddai cwmwd Carnwyllion yn ne-ddwyrain y Sir Gaerfyrddin bresennol. Roedd yn rhan o gantref Eginog, un o dri chantref Ystrad Tywi yn nheyrnas Deheubarth.
Math | cwmwd, cantref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Eginog, Teyrnas Deheubarth ![]() |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Gerllaw | Afon Tywi, Afon Llwchwr ![]() |
Yn ffinio gyda | Cydweli, Is Cennen ![]() |
Cyfesurynnau | 51.68°N 4.15°W ![]() |
![]() | |
Yn wreiddiol, nid oedd ond dau gwmwd yn Eginog, sef Cydweli a Gŵyr, ond rhannwyd Cydweli yn ddwy ran a rhoddwyd yr enw Carnwyllion ar hanner ddwyreiniol yr hen gantref tra chadwyd yr enw Cydweli ar y cwmwd newydd arall i'r gorllewin. Diflanodd Erginog fel uned weinyddol, i bob pwrpas, gyda'r cymydau newydd yn cymryd ei lle.
Ffiniai Carnwyllion â chwmwd Cydweli i'r gorllewin, Is Cennen i'r gogledd, a Gŵyr Uwch Coed i'r dwyrain. Yn ddaearyddol, gorweddai rhwng Afon Tywi yn y gogledd ac aber Afon Llwchwr i'r de, gan gynnwys ardal Cwm Gwendraeth a chyffiniau safle Llanelli heddiw.
Yng Nghynhadledd Aberdyfi yn 1216, cafodd Rhys Gryg Garnwyllion fel ei ran ef o etifeddiaeth yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth, ynghyd â'r Cantref Mawr a'r Cantref Bychan (heb Mallaen a Hirfryn), a chwmwd Cydweli.