Cynhadledd Aberdyfi

Cynhaliwyd Cynhadledd Aberdyfi wrth aber afon Dyfi yn 1216. Dyma'r gynhadledd a welodd arweinwyr y Cymry yn cydnabod Llywelyn Fawr yn Dywysog ar y wlad.

Cynhadledd Aberdyfi
Dyddiad1216 Edit this on Wikidata
LleoliadAberdyfi Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Roedd Cynhadledd Aberdyfi yn coroni ymgyrchoedd llwyddiannus Llywelyn yn y de yn 1215. Arweiniodd Llywelyn fyddin fawr oedd yn cynnwys tywysogion Deheubarth a chanolbarth Cymru ac adenillwyd darnau sylweddol o dir o ddwylo'r Saeson ac arglwyddi'r Mers.

Mae union leoliad y gynhadledd yn anhysbys, ond gellid tybio mae rhywle rhwng Pennal a Machynlleth y'i cynhaliwyd yn hytrach nag ar safle tref Aberdyfi ei hun. Dyma'r man lle roedd ffiniau Gwynedd, Powys, a Deheubarth yn cwrdd yn yr Oesoedd Canol a diau fod yr atgof am gynhadledd debyg gan y brenin Maelgwn Gwynedd ar ddechrau'r 6g yn rheswm arall dros ei chynnal yno.

Y gynhadledd

golygu
 
Afon Dyfi ger Machynlleth.

Cryfhaodd Llywelyn ei ddylanwad yn y De yn ystod Cynhadledd Aberdyfi yn 1216. Sefyflodd ei hun fel arglwydd dros feibion ​​ac wyrion yr Arglwydd Rhys gan rannu tiroedd Rhys rhyngddynt heb gymryd tir iddo ef ei hun. Gwnaed hyn o flaen cynulliad o bennaethiaid ac yn ôl yr awdur John Edward Lloyd, gellir ystyried hwn "bron yn senedd Gymreig, y cyntaf o'i fath" ond heb eu casglu dan ofyniad cyfraith.[1]

Cadarnhaodd y gynhadledd awdurdod Llywelyn Fawr fel arweinydd y tywysogion Cymreig. Talodd y tywysogion hynny wrogaeth ffiwdal iddo. Daeth y gynhaledd i ben blynydoedd o ymrafael rhwng disgynyddion yr Arglwydd Rhys. Cafodd Maelgwn ap Rhys gantrefi Gwarthaf (gyda Chaerfyrddin), Cemais, Emlyn, Mallaen a Hirfryn yn Ystrad Tywi a chymydau Gwynionydd a Mabwnion yng Ngheredigion. Cafodd Rhys Gryg y Cantref Mawr a'r Cantref Bychan (heb Mallaen a Hirfryn), Cydweli a Charnwyllion. Rhoddwyd canolbarth a gogledd Ceredigion i feibion Gruffudd ap Rhys, sef Rhys Ieuanc ac Owain ap Gruffudd, yn cynnwys castell Aberteifi. Ni chymerodd Llywelyn Fawr ddim iddo'i hun, gan fodloni ar dderbyn gwrogaeth y tywysogion ac arglwyddi.[2]

Cafodd y tir ei rannu rhwng disgynyddion yr Arglwydd Rhys yn union â Chyfraith Hywel. Rhannodd yr hawlwr ieuengaf y tir ond rhoddwyd y dewis cyntaf ar y rhaniadau i'r hawlwr hynaf.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Lloyd, John Edward (1912). A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest. Robarts - University of Toronto. London Longmans, Green. t. 649.
  2. A. H. Williams, An Introduction to the History of Wales, cyfrol 2, tud. 71.
  3. R. R. Davies, Conquest, Co-existence and Change (Rhydychen, 1991), tud. 228.