Carole Cadwalladr

Newyddiadurwr ac awdur Cymreig ydy Carole Cadwalladr (ganwyd 1969).

Carole Cadwalladr
GanwydCarole Jane Cadwalladr Edit this on Wikidata
Hydref 1969 Edit this on Wikidata
Taunton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, gohebydd, ysgrifennwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auStieg Larsson Award, Orwell Prize, Hay Festival Medal, Electronic Privacy Information Center 2020 International Privacy Champion Award Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Cafodd Cadwalladr ei magu yng Nghymru.[1] Addysgwyd Cadwalladr yn Ysgol Gyfun Radur, Caerdydd,[2] ac yng Ngholeg Hertford, Rhydychen.[3]

Cyn-newyddiadurwr gyda'r Daily Telegraph ydy Cadwalladr ac mae hi bellach yn ysgrifennwr erthyglau nodwedd i The Observer.[4] Mae hi wedi bod ar restr fer Gwobrau y Wasg Brydeinig dwywaith.

Roedd ei nofel gyntaf, The Family Tree, ar restr fer Gwobr Ysgrifenwyr y Gymanwlad yn 2006, yr Author's Club First Novel Award, y Waverton Good Read Award, a Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru. Cafodd The Family Tree ei haddasu fel cyfres ddrama pum pennod ar BBC Radio 4. Yn Unol Daleithiau America roedd y llyfr yn 'ddewis y golygydd' yn y New York Times.

Cyfieithwyd The Family Tree i sawl iaith gan gynnwys Sbaeneg, Eidaleg, Almaeneg, Tsieceg, a Phortiwgaleg.

Brexit a phynciau perthnasol golygu

Ers diwedd 2016, mae papur The Observer wedi cyhoeddi cyfres helaeth o erthyglau gan Cadwalladr am "ecosystem newyddion ffug yr adain dde".[5]

Ysgrifennodd Anthony Barnett ym mlog The New York Review of Books am erthyglau Cadwalladr yn The Observer, sydd wedi honni camarfer gan ymgyrchwyr Brexit, ac ariannu drwg yr ymgyrch Vote Leave, yn Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu am y cysylltiadau rhwng Nigel Farage, ymgyrch arlywyddol Donald Trump a dylanwad Rwsia ar yr etholiad.

Mae Arron Banks wedi cyhoeddi y bydd ei gyfreithwyr yn gweithredu yn ei herbyn - am iddi honni ei fod yn gysylltiedig â Rwsia.[5][6]

Mae'n ymddangos mewn ffilm ddogfen The Great Hack, a gyhoeddwyd gan Netflix yng Ngorffennaf 2019.[7]

Gweithiau golygu

  • Cadwalladr, Carole (29 Tachwedd 2005). The Family Tree: A Novel (yn Saesneg). Penguin. ISBN 9781440649516.
  • Cadwalladr, Carole (1996). Lebanon (Travellers Survival Kit) (yn Saesneg). Vacation Work. ISBN 1854581473.

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.theguardian.com/profile/carolecadwalladr
  2. Cadwalladr, Carole (24 Awst 2015). "Whatever the party, our political elite is an Oxbridge club". The Guardian. Cyrchwyd 2 Medi 2015.
  3. "Hertford, Hugh, and Press Freedom". Hertford, College, Oxford University. 28 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 20 Chwefror 2017.
  4. "Carole Cadwalladr". The Guardian. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2017.
  5. 5.0 5.1 Barnett, Anthony (14 Rhagfyr 2017). "Democracy and the Machinations of Mind Control". New York Review of Books. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2017.
  6. https://order-order.com/2019/07/12/banks-formally-files-libel-proceedings-cadwalladr/
  7. www.theguardian.com; adalwyd 27 Gorffennaf 2019.

Dolenni allanol golygu