Grŵp gwerin Cymraeg dylanwadol o ddiwedd y 1970au a chychwyn yr 1980au, o Wynedd, oedd Carreg Lafar.

Carreg Lafar
Gwefanhttp://www.carreglafar.co.uk/ Edit this on Wikidata

Mae'r grŵp yn ceisio amlygu hen draddodiadau a'u hailweithio ar gyfer y 21g. Mae'n gyfuniad o'r hen a'r newydd: y pibau, y ffidil, y ffliwt yn gweu drwy'i gilydd alawon hynafol ynghyd â lleisiau cryf a gitâr rhythmig, yn rhoi tro cyfoes i gerddoriaeth draddodiadol.

Aelodau golygu

Linda Owen Jones

Daw Linda o Wrecsam. Symudodd i Gaerdydd yn 1982 i hyfforddi fel actores ac ers hynny, mae hi wedi cael gyrfa amrywiol am 12 mlynedd yn y theatr ac ar y teledu, gyda chanu yn chwarae rhan bwysig yn ei gwaith. Ymunodd Linda fel y prif leisydd yn 1994. Yn 2006 enillodd hi’r cystadleuaeth Canu Unawd Celtaidd yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.

Rhian Evan Jones

Mae Rhian yn dod o Don Pentre yng Nghwm Rhondda. Dechreuodd canu’r ffidil pan oedd yn ddeg mlwydd oed. Cafodd radd mewn cerddoriaeth o Goleg Prifysgol Caerdydd ac mae hi wedi perfformio fel unawdydd a gyda cherddorfeydd proffesiynol. Dechreuodd Rhian ganu gerddoriaeth gwerin gyda Carreg Lafar yn 1993.

James Rourke

Cafodd James ei eni yn Llanelli. Fe’i hyfforddwyd i fod yn actor a gwneuthuriwr ffilm, ac yn 2017 roedd yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer ffilm a theledu, a nofelau hefyd. Dechreuodd ganu’r ffliwt pan oedd yn 15 oed ac ymunodd a’r grwp gwerin Cymreig, Carreg Aonair yn y 1970au.

Antwn Owen Hicks

Mae Antwn yn dod o Bontllanfraith yng Nghwm Sirhwy. Wedi ei hyfforddi fel darlunydd yn Llundain, symudodd nôl i Gymru. Mae e’n gerddor traddodiadol hunan-ddysgedig, yn canu amryw o offerynnau gan gynnwys y pibau cwd, pibgorn, chwibanogl ac offerynnau taro. Mae' aelod cychwynnol o’r grŵp.

Danny Kilbride

Fe gafodd Danny ei eni mewn fflat cyngor yng Nghaerdydd. Roedd ei berfformiad gyhoeddus cyntaf yng nghlwb gwerin Cardiff Royal Infirmary yn 1970, yn canu gitâr gyda’i rieni. Mae’n canu nifer o offerynnau tant, ac yn defnyddio’r dull chwyldroadol ‘Bowyer’s’ ar allweddellau a ffidil. Mae Danny'n perfformio mewn amryw o grwpiau eraill yn cynnwys Kilbride (gyda’i frodyr Gerard a Bernard) Yr Hwntws, Taran a Juice.

Disgyddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato