Slab o garreg arysgrifiedig a ddarganfuwyd ar 15 Gorffennaf 1799 yn Rosetta (Arabeg: Rashid), ger Alecsandria yng ngogledd Yr Aifft yw Carreg Rosetta.[1] Mae'n dryll anghyflawn o dalp o garreg fasalt ddu sydd bellach yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Darganfuwyd y garreg ym mhorthladd Rossetta, yr Aifft gan Pierre-François Bouchard. Yr enw modern ar y porthladd yw 'Rashid'.

Carreg Rosetta
Math o gyfrwngarteffact archaeolegol, Überrest, ysgrifen ddwyieithog Edit this on Wikidata
CrëwrPtolemi V Epiphanes Edit this on Wikidata
Deunyddgranodiorite Edit this on Wikidata
Label brodorolRosetta stone Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod15 Gorffennaf 1799 Edit this on Wikidata
IaithHen Roeg, Eiffteg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu196 CC Edit this on Wikidata
Lleoliadyr Amgueddfa Brydeinig Edit this on Wikidata
Perchennogyr Amgueddfa Brydeinig Edit this on Wikidata
Enw brodorolRosetta stone Edit this on Wikidata
System ysgrifennuhieroglyffau'r Aifft, demotig yr Aifft, Yr wyddor Roeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Carreg Rosetta

Ceir arni datganiad a wnaed gan y brenin Ptolemi V Epiphanes (teyrnasodd 205 CC-180 CC) yn 196 CC, a gofnodir mewn dwy iaith a thair sgript, sef hieroglyphiaid Eifftaidd, demotig a Groeg. Ceir 14 llinell o heieroglyphiaid, 32 llinell o ddemotig (sgript ddiweddarach ar gyfer ysgrifennu Hen Eiffteg) a 54 llinell o Roeg. Datganiad ynglŷn ag offeiriadaeth teml Memphis a geir arni.

Sylwodd yr ieithydd Thomas Young ar y ffaith fod un enw, sef enw'r brenin, yn dangos yn y tair sgript, ac aeth ati i ddechrau dehongli'r arysgrifiadau. Llwyddodd ieithydd arall, y Ffrancwr Jean-Francois Champollion, i gwblhau'r cyfieithu. Cyhoeddodd Champollion ei ddarganfyddiad yn y gyfrol Lettre à M. Dacier relative à l'aplphabet des Hiéroglyphes Phonétiques (1822). Fel hyn y cafwyd yr agoriad i fynd ati a darllen a dehongli holl arysgrifau Hen Eiffteg yr Aifft.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Yr Amgueddfa Brydeinig; adalwyd 15 Gorffennaf 2015

Llyfryddiaeth

golygu
  • E. A. Wallis Budge, The Mummy (argraffiad newydd, 1989). Llyfr ar ddiwylliant yr Hen Aifft gan yr Eifftolegydd enwog sy'n cynnwys pennod diddorol ar hanes Carreg Rosetta.
  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Aifft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.