Mae lactwlos yn siwgr na ellir ei amsugno sy’n cael ei ddefnyddio i drin rhwymedd ac enseffalopathi hepatig.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₂H₂₂O₁₁. Fe'i gweinir trwy'r gen ar gyfer rhwymedd a naill ai trwy'r gen neu'r rectwm ar gyfer enseffalopathi hepatig. Yn gyffredinol, mae'n dechrau gweithio ar ôl wyth i undeg dau awr, ond gall gymryd hyd at ddau ddiwrnod i wella'r rhwymedd. Mae ar gael dros y cownter heb ragnodyn. Mae ar gael fel cyffur generig neu efo'r enwau brand Duphalac a Lactugal[2]. Mae'r feddyginiaeth ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.

Lactwlos
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathdisaccharide Edit this on Wikidata
Màs342.116 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₂h₂₂o₁₁ edit this on wikidata
Enw WHOLactulose edit this on wikidata
Clefydau i'w trinHepatic coma, rhwymedd, hepatic encephalopathy, rhwymedd edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Yn cynnwysocsigen, carbon, hydrogen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnydd meddygol

golygu

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • rhwymedd
  • rhwymedd
  • Mae lactulose yn garthydd effeithiol sydd yn meddalu'r ymgarthion trwy gynyddu faint o ddŵr sydd yn y coluddyn mawr[3]. Mae'n cael ei ddefnyddio i drin rhwymedd, yn arbennig rhwymedd gan gleifion hŷn. Mae'r cyffur yn llai tebygol nac eraill i darddu ar weithrediad naturiol y coluddion. Mae lactulose yn cael ei ddefnyddio i drin rhwymedd sy'n cael ei achosi gan gymryd cyffuriau opioid, ac yn y driniaeth symptomatig o glwyf y marchogion (peils) fel meddalydd carthion. Mae lactulose yn ddefnyddiol wrth drin hyperammonemia (lefelau uchel o amonia yn y gwaed), a all arwain at enseffalopathi hepatig (anhwylder ar yr ymennydd sy'n cael ei achosi gan fethiant yr afu). Mae laculose yn helpu i ddal yr amonia (NH3) yn y coluddion ac yn rhwymo ato. Mae hefyd yn ddefnyddiol i atal hyperammonemia a achosir fel sgil effaith falporad I drin enseffalopathi hepatig efo lactulose mae gofyn gweini dosiau cymharol fawr dair neu bedair gwaith y dydd. Bydd hyn bron yn sicr o arwain at  y dolur rhydd. Gan hynny bydd cleifion sy'n derbyn y driniaeth yn gwisgo cewynnau oedolion ar gyfer unrhyw weithgareddau i ffwrdd o'r cartref neu yn y nos (gyda phad llinyn ar gyfer y gwely) oherwydd gall y dolur rhydd ddigwydd yn gyflym a heb lawer o rybudd.

    Ar gyfer rhwymedd rhoddir dos o 15-30ml yn ddyddiol wedi ei rannu'n dau ddos y dydd. Ar gyfer methiant yr afu, 90 i 150ml y dydd wedi ei rannu'n tri neu bedwar dos. Mae'n dechrau gweithio o fewn diwrnod neu ddau a gall barhau i weithio am 6 i 18 awr. Mae'n bwysig yfed o leiaf wyth gwydriad o ddŵr ychwanegol pob dydd wrth gymryd lactulose i wneud iawn am y dŵr caiff ei golli o'r coluddion trwy'r driniaeth.

    Sgil effeithiau

    golygu

    Prin yw'r sgil effeithiau difrifol, ac maent yn tueddu i ddiflannu wrth i'r claf dod i arfer a'r meddyginiaeth. Mae presenoldeb y ddolur rhudd yn awgrymu bod y dos yn rhy uchel a dyle'r claf trafod ei newid efo'r meddyg. Y sgil effeithiau mwyaf cyffredin yw gwynt (fflatws a bytheiriad); cwlwm gwythi yn yr ystumog; y dolur rhydd; chwydu / teimlo'n gyfoglyd; chwyddiant yn y bol[4].

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Lactwlos, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;


    Cyfeiriadau

    golygu
    1. Pubchem. "Lactwlos". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. BMA New Guide to Medicine & Drugs; BMA 2015 ISBN 0241183413
    3. NHS UK lactulose[dolen farw] adalwyd 26 Ionawr 2018
    4. Nursing Times - Lactulose adalwyd 26 Ionawr 2018


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!