Casein
Enw ar deulu o broteinau ffosffobrotein (αS1, αS2, β, κ) ydy Casein (o'r Lladin caseus, "caws"). Gellir dod o hyd i'r proteinau hyn mewn llaeth mamaliaid, am ei fod yn creu 80% o'r proteinau mewn llaeth buwch a rhwng 60% a 65% o'r proteinau mewn llaeth dynol.[1] Mae gan casein amrywiaeth o ddefnyddiau gwahanol, o fod yn rhan angenrheidiol mewn caws, i gael ei ddefnyddio fel ychwanegyn i fwyd, i fod yn rhwymwr mewn matsys diogelwch.[2] Fel ffynhonnell fwyd, mae casein yn darparu asidau amino angenrheidiol yn ogystal â carbohydradau a'r elfennau anorganig calsiwm a ffosfforws.
Enghraifft o'r canlynol | glynwr, cymysgedd |
---|---|
Math | proteinau llaeth |
Yn cynnwys | carbon, hydrogen, nitrogen, ocsigen, ffosfforws |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (1990) Human-milk proteins: analysis of casein and casein subunits.... The American Society for Clinical Nutrition. URL
- ↑ "Industrial Casein" Archifwyd 2012-11-12 yn y Peiriant Wayback, National Casein Company