Cerbyd ofod robotaidd oedd Cassini-Huygens a anfonwyd i’r blaned Sadwrn trwy gydweithrediad NASA (Asiantaeth Ofod Gogledd America) , ESA (Asiantaeth Ofod Ewrop) ac Asiantaeth Gofod yr Eidal. Fe’i lansiwyd ar 15 Hydref, 1997 ar gerbyd Titan IV-B/Centaur o Safle Lansio 40 yn Cape Canaveral, Fflorida [1].

Cassini-Huygens
Enghraifft o'r canlynolrobotic spacecraft, taith i'r gofod Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHuygens, Cassini Edit this on Wikidata
GweithredwrNASA, Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, Italian Space Agency Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://solarsystem.nasa.gov/missions/cassini/overview/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun dychmygol o Cassini-Huygens yn cyrraedd Sadwrn yn 2004

Cefndir golygu

Cassini oedd y bedwaredd cerbyd ofod i gyrraedd Sadwrn, a’r gyntaf i gylchdroi o’i chwmpas. Ymunodd a’r cylchdro ar 1Gorffennaf 2004. Ar 14 Ionawr 2004 glaniodd y glaniwr Huygens ar wyneb y lleuad Titan. Oddi yno anfonodd lluniau a gwybodaeth am y lleuad honno. Hwn oedd y glaniad gyntaf yn rhan allanol Gyfundrefn yr Haul, a’r glaniad gyntaf ar leuad heblaw am leuad y Ddaear.
Cyflawnodd Cassini mesuriadau ac arsylliadau lu (635 GB o ddata[2]), gan dynnu 453,048 o luniau[2][3]. Wrth i’w danwydd lliwio (yn hytrach na’r tanwydd Plwtoniwm a oedd yn ffynhonnell ei drydan) dod i ben penderfyniad y tîm rheoli oedd gorffen y daith trwy blymio Cassini i awyrgylch Sadwrn, lle’i darniwyd yn llwyr ar 15 Medi 2017 [4][5]. Yn ogystal â galluogi mesuriadau o awyrgylch Sadwrn, diben hyn oedd cadw unrhyw lygredd biotig a allasai fod ar y cerbyd rhag cyrraedd a llygru lleuadau Sadwrn (Enceladws a Titan yn arbennig) lle, o bosib, mae bywyd cyntefig yn bodoli.

Uchafbwyntiau’r Daith golygu

Erbyn haf 2008, terfyn wreiddiol y prosiect, roedd wedi cyflawni ei dyletswyddau gwreiddiol, ac roedd Huygens wedi glanio’n llwyddiannus ar y lleuad Titan a darlledu cannoedd o luniau ohono. Yn 2008, ac eto yn 2010 , estynnwyd arianni (ac felly oes) y prosiect.

 
Geiserau o ddŵr a hydrocarbonau ar wyneb Enceladus, un o (mwy na) 53[6] lleuad Sadwrn. Un o ddarganfyddiadau pwysig Cassini.

Gwnaeth Cassini fyrdd o ddarganfyddiadau a champau cyn ac ar ôl 2008[7]. (Ymwelwch â gwefan NASA i weld detholiad o’r lluniau[3] anhygoel.) Daeth o hyd i saith lleuad newydd (bellach mae 53 ag iddynt enwau) a manylu ar y rhai cyfarwydd (gan gynnwys darganfod llynnoedd hydrocarbon ar Titan), mesurodd hyd diwrnod ar Sadwrn (deg awr a thri-chwarter) a disgrifiodd stormydd a chorwyntoedd yn ei chymylau nas gwelwyd eu bath o’r blaen y tu hwnt i’r ddaear. Yn 2003 gwnaed arbrawf a gadarnhaodd ddamcaniaeth gyffredinol perthnasedd Einstein wrth i ddarllediadau Cassini blygu wrth fynd heibio’r haul ar eu trywydd hir yn ôl i’r ddaear. Un o uchafbwyntiau’r daith yw’r hyn a ddarganfuwyd ar y lleuad Enceladus. Yn 2005, canfuwyd awyrgylch tenau a geiserau o ddŵr yn tasgu iddo. Yn 2008 (ac eto yn 2015), mewn gweithredoedd sy’n adlewyrchu manylder y daith, bu modd i’r goden hedfan drwy un o’r geiserau, prin 30 milltir uwchben wyneb y lleuad, a dadansoddi’r dŵr a’r hydrocarbonau oedd ynddo. Erbyn 2015 roedd Cassini wedi casglu digon o ddata i ganiatáu i NASA gyhoeddi bod wyneb rhewllyd Enceladus yn arnofio ar gefnfor hylif hallt sy’n gorchuddio’r holl leuad. Yn ddiau, dyma un o’r safleoedd mwyaf gobeithiol o ran darganfod bywyd y tu hwnt i’r ddaear.

Nofel golygu

Yn 2006 cyhoeddwyd nofel Mr Cassini gan Lloyd Jones. Defnyddia’r awdur delwedd taith llong ofod Cassini fel un o themâu’r nofel a enillodd wobr Llyfr Cymru’r Flwyddyn (Saesneg) 2007[8].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Launch of Cassini Orbiter and Huygens Probe on Titan IV". Jet Propulsion Laboratory (NASA). 23 Hydref 1997. Cyrchwyd 15/Medi 2017. Check date values in: |access-date= (help)
  2. 2.0 2.1 "Cassini: Saturn 'death dive' spacecraft in numbers". BBC News. 15 Medi 2017.
  3. 3.0 3.1 "Cassini Images". NASA. 4 Awst 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-30. Cyrchwyd 15 Medi 2017.
  4. "Cassini. The Grand Finale". Jet Propulsion Laboratory (NASA). 15 Medi 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-14. Cyrchwyd 15 Medi 2017.
  5. "Gwyddonwyr yn Aberystwyth yn dilyn diwedd taith Cassini". BBC Cymru Fyw. 15 Medi 2017.
  6. "Saturn:Moons". NASA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-16. Cyrchwyd 15 Medi 2017.
  7. "Cassini at Saturn". NASA. 13 Medi 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-06-09. Cyrchwyd 15 Medi 2017.
  8. "'Surreal' novel wins book award". BBC Wales. 9 Gorffennaf 2007.