Castanwydden y meirch
Aesculus hippocastanum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Sapindales |
Teulu: | Sapindaceae |
Genws: | Aesculus |
Rhywogaeth: | A. indica |
Enw deuenwol | |
Aesculus hippocastanum Wall. ex Camb.) Hook.f.) |
Coeden sy'n tyfu i uchder o tua 36 metr (118 tr) yw Castanwydden y meirch (enw benywaidd) neu Coeden goncr ar lafar gwlad. Mae'n perthyn i'r teulu Sapindaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Aesculus hippocastanum a'r enw Saesneg yw Horse-chestnut.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Castanwydden y Meirch, Castanwydden Geffyl. Yna ardal Llanrug, Arfon, sonnir am “chwarae colbs” am chwarae concyrs[2]
Mae'n goeden gollddail sy'n frodor o dde-ddwyrain Ewrop.[3] Gwelir Castanwydden y meirch yn tyfu ar ochr strydoedd mewn trefi a dinasoedd ledled y byd. Mae'r dail yn debyg i law agored, ac fe'i lleolir gyferbyn a'i gilydd, mewn clwstwr o 5-7, gyda phob un 13–30 cm o hyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Les Larsen, Eco’r Wyddfa, Hydref 1982
- ↑ Euro+Med Plantbase Project: [http: //ww2.bgbm.org/_EuroPlusMed/PTaxonDetail.asp?NameId=24982&PTRefFk=500000 Aesculus hippocastanum]
Dolen allanol
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur