Castell Bryn Gwyn
Safle amddiffynnol aml-gyfnod gerllaw Brynsiencyn ar Ynys Môn yw Castell Bryn Gwyn. Mae wedi ei ffurfio o glawdd pridd 10 medr o led a 2 fedr o uchder, ar ffurf cylch, 17 medr ar draws. Yn wreiddiol, roedd ffos yn ei amgylchynu.
Math | safle archaeolegol, castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.178358°N 4.297865°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN015 |
Bu cloddio archaeolegol yma yn 1959-60, a dangoswyd fod y safle wedi ei defnyddio yn ystod sawl cyfnod. Cafwyd hyd i grochenwaith o'r cyfnod Neolithig. Yn ddiweddarach, ail-adeiladwyd y clawdd a chloddiwyd ffos newydd, efallai ar gyfer fferm gydag amddiffynfeydd. Cafwyd hyd i grochenwaith o ddiwedd 1g OC, ac ymddengys i'r safle gael ei defnyddio mewn cyfnod diweddarach hefyd.
Cred rhai ysgolheigion mai'r safle yma oedd "Castell Bon y Dom", y dywedir i Olaf Sigtryggsson, taid Gruffudd ap Cynan ei adeiladu yn nechrau'r 11g. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth bendant i gefnogi hyn.
Gerllaw ceir Meini hirion Bryn Gwyn.
Llyfryddiaeth
golyguFrances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)