Meini hirion Bryn Gwyn

Cylch cerrig ar Ynys Môn yw meini hirion Bryn Gwyn neu Gastell Bryn-gwyn, sy'n dyddio o Oes yr Efydd.

Meini hirion Bryn Gwyn
Mathsafle archaeolegol, cylch cerrig, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1772°N 4.3021°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH4623766929 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwAN022 Edit this on Wikidata

Lleoliad golygu

Mae'r meini hirion yn ne-orllewin Ynys Môn ger safle archaeolegol arall, Castell Bryn Gwyn, tua 3 milltir i'r dwyrain o Niwbwrch a thua milltir a hanner i'r gorllewin o Frynsiencyn.[1] Cyfeirnod OS: 462669.

 
Y ddwy garreg sy'n weddill o feini hirion Bryn Gwyn.

Llifa Afon Braint heibio ychydig i'r gorllewin o'r safle, sy'n un o sawl safle cynhanesyddol yn yr ardal, gan gynnwys Caer Leb a siambr gladdu Bodowyr.

Hanes golygu

Yn ôl disgrifiadau cynnar, bu naw carreg yn y cylch ar un adeg, ond dim ond dwy sy'n aros heddiw, yn mesur 4 a 3 medr o uchder. Roeddent yn sefyll mewn cylch gyda diametr o tua 12 metr[2], a hwnnw y tu mewn i ffos gyda chlawdd allanol, adeiladwaith sy'n awgrymu eu bod yn yr un traddodiad cylchoedd henge â chylch diflanedig ger Llandygái, dros y Fenai ger Bangor.[3]

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Coflein, Cadw". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-25. Cyrchwyd 2011-12-27.
  2. [ Gweler Burl (Guide to the Stone Circles of Britain, Ireland and Brittany 1995, 2005)
  3. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978), tud. 45.