Brynsiencyn
Pentref yng nghymuned Llanidan, Ynys Môn, yw Brynsiencyn[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ne-orllewin yr ynys ar ffordd yr A4080 rhwng Llanfairpwllgwyngyll a Niwbwrch. Mae'r enw'n gyfuniad o'r gair bryn a'r enw personol Siencyn ac mae'r cyfeiriad cynharaf at yr enw yn dyddio i 1587 (Bryn sienkyn).[3] Tystiodd perchennog tyddyn Bryn sienkyn mai Mallt ferch Siencyn oedd enw ei nain.[3] Wrth gyrraedd y pentref o gyfeiriad y dwyrain, fe welwch Eglwys Sant Nidan a godwyd yn 1841 gan ddisodli hen eglwys plwyf Llanidan.[4] O ganol y pentref, mae ffordd yn arwain i lawr at Afon Menai, lle mae Sw Môr Môn a Halen Môn.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.18012°N 4.270561°W |
Cod OS | SH484670 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Hanes a hynafiaethau
golyguGellir gweld nifer o hynafiaethau gerllaw'r pentref, yn cynnwys siambr gladdu Bodowyr, Castell Bryn Gwyn a Chaer Lêb.
Pobl o Frynsiencyn
golygu- Robert ab Ifan, bardd ac uchelwr a flodeuodd rhwng 1572 a 1603.
- John Williams, Brynsiencyn, a fu'n weinidog yno ac yn un o bregethwyr amlycaf Cymru.
- Hugh Owen (addysgwr)
- Margaret Williams (cantores ac actores)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 12 Rhagfyr 2021
- ↑ 3.0 3.1 Owen, Hywel Wyn; Morgan, Richard (2007). Dictionary of the Place Names of Wales. Gomer. ISBN 9781843239017.
- ↑ "Geograph".
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele