Castell Glandyfi
Castell gothig Sioraidd ger Glandyfi, Ceredigion ydy Castell Glandyfi. Adeiladwyd ym 1810, yn agos i safle Castell Aberdyfi sy'n dyddio o 1156. Mae'r adeilad wedi'i restru ar Radd II.[1]
Math | plasty |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Glandyfi Estate |
Lleoliad | Ysgubor-y-coed |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 55.8 metr |
Cyfesurynnau | 52.552°N 3.929°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Arwynebedd holl ystafelloedd y castell yw tua 7,000 troedfedd sgwar, ac mae iddo bump ystafell fyw, saith llofft a phedair ystafell ymolchi yn ogystal â neuaddau ac ystafelloedd domestig, stablau ac ysguboriau, yn ôl yr asiant stadau a werthodd y castell yn 2007. Mae hefyd fflat ar wahân gyda dwy lofft, a phorthdy un llofft gydag ystafell fyw, cegin ac ystafell ymolchi.[1][2]
Dyluniwyd y castell gan bensaer ar gyfer George Jeffreys a'i wraig, Justina. Prynwyd y safle lle'i adeiladwyd, bryn coediog a adnabyddir yn hanesyddol fel y Garreg, gan ei daid Edward Jeffreys o Amwythig y ganrif gynt, mewn cyfnod pan fu'r ardal yn enwog am fwyngloddio arian a phlwm. Mae gweddillion y pentref a adeiladwyd o gwmpas y diwylliant mwyngloddio - yn dal i sefyll yn y tiroedd sy'n eiddo i'r castell.[1][2]
Allfudo
golyguAllfudodd dau allan o naw o blant George i Christchurch, Seland Newydd yng nghanol y 19g. Mae Glandovey Road i'w ganfod yno hyd heddiw, wedi ei enwi ar ôl hen gartref Charles Jeffreys, a adeiladodd y lle yn yr 1870au cyn dychwelyd i Gymru pan etifeddodd yr ystad yn 1880. Arhosodd y castell ym mherchnogaeth y teulu Jeffreys am bron i ganrif, nes i'r ystad cael ei rhannu yn 1906.[2]
Perchnogion newydd
golyguDaeth y castell yn eiddo i'r diwydiannwr coegwych o Birmingham, Syr Bernard Docker, a'i wraig Norah, yn yr 1950au. Roedd yn gadeirydd cwmni "Birmingham Small Arms", a gynhyrchodd beiciau modur enwog Triumph a BSA, a cheir Daimler. Prynwyd y castell gan y cwmni am £12,500, a thaflwyd arian ati i'w ailwampio. Roedd afradlonedd Docker ym mhenawdau'r wasg unwaith eto pan glywodd y cyfranddalwyr am y gorwario. Gwerthwyd y castell gan BSA yn fuan wedyn, a chollodd Docker ei swydd.[1][2]
Ers hynny, mae wedi bod yn gartref tawelach, yn eiddo i Mrs Betty Piper am 40 mlynedd hyd at 2007.[2]
Yn ôl hen wraig sy'n cadw'r tŷ, Barbara Adams, mae gan y castell ysbryd hefyd.[1]