Castell Llansteffan
caer bentir rhestredig Gradd I yn Llansteffan
Saif Castell Llansteffan wrth aber Afon Tywi lle mae'n llifo i Fae Caerfyrddin, hanner milltir i'r de o bentref Llansteffan. Codwyd y castell gan y Normaniaid yn gynnar yn y 1100au ar safle bryngaer arfordirol gynharach.
![]() | |
Math | castell, caer bentir, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llansteffan ![]() |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 65.8 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7655°N 4.3908°W ![]() |
Cod OS | SN35141014 ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CM004 ![]() |
Cipiwyd y castell yn 1146, yn ôl Brut y Tywysogion, gan y Tywysog Maredudd ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr a'i frawd Cadell ap Gruffudd. Ceisiodd llu o Normaniaid a Ffleminiaid de Penfro adennill y castell ond fe'u gorchfygwyd gan y Cymry ar ôl iddynt amddiffyn y castell ac wedyn gwrthymosod ar y gelyn.
Roedd y castell yn ôl ym meddiant y Normaniaid erbyn 1158.