Castell Trefynwy

castell yn Nhrefynwy
(Ailgyfeiriad o Castell Mynwy)

Castell yn nhref Trefynwy, Sir Fynwy ydy Castell Trefynwy.

Castell Trefynwy
Mathcastell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1060s Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYmosodiad y Normaniaid ar Gymru Edit this on Wikidata
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr30 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Gwy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.812499°N 2.716852°W Edit this on Wikidata
Cod postNP25 3BS Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganWilliam FitzOsbern Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMM159 Edit this on Wikidata

Lleoliad

golygu

Mae Castell Trefynwy wedi ei leoli yn agos i ganol tref Trefynwy ar fryn sydd y tu ôl i'r siopau, y prif sgwâr a'r strydoedd ac yn edrych dros Afon Mynwy. Ar un adeg bu'n gastell pwysig oherwydd ei leoliad ar y ffin, roedd yn sefyll tan Rhyfel Cartref Lloegr pan gafodd ei ddifrodi gan newid dwylo dair gwaith. Pan ymwelodd Oliver Cromwell â'r castell yn 1646 gorchmynoodd ei fod yn cael ei dynnu i lawr rhag ei ddefnyddio gan gefnogwyr y Brenin. Ar y 30ain o Fawrth 1647 gwnaeth y trefwyr a'r milwyr ddechrau tynu'r cerrig oddi ar y Tŵr Crŵn Mawr ac fe'i dymchwelwyd yn ddiweddarach

Castell ffin Normanaidd cynnar

golygu

Fe'i adeiladwyd gan William FitzOsbern, Iarll cyntaf Henffordd, yr adeiladwr castyll, oddeutu 1067-1071 ac yn rhannu'r un nodweddion i Gastell Cas-gwent, un arall o ddyluniwyd gan FitzOsbern ymhellach i'r de ar Afon Gwy yn Sir Fynwy.

I ddechrau, roedd Castell Trefynwy yn eithaf nodweddiadol o gapel ffin syml y Mers, gyda un o Arglwyddi'r Mers yn tra arglwyddiaethu drosto, ac yn debyg o ran arddull a statws i'w gymdogion; Castell y Grysmwnt, Castell Ynysgynwraidd, Castell Gwyn neu Gastell y Fenni.

Ehangu

golygu

Yn 1267, pasiodd Castell Trefynwy i ddwylo Edmund Crouchback (1245-1296), Iarll Caerhirfryn a mab brenin Harri III o Loegr, a ailddatblygodd y castell a'i ehangu fel ei brif breswylfa yn yr ardal. Cafodd ei wella hefyd gan Henry o'r Grysmwnt, Dug 1af Caerhirfryn (1310-1361).

Roedd y castell yn un o hoff gartrefi Henry Bolingbroke, a ddaeth yn ddiweddarach yn Frenin Harri IV. Yma yn 1387 y ganwyd Brenin Harri V o Loegr, i wraig gyntaf Bolingbroke, Mary de Bohun .

Owain Glyndŵr

golygu

Ni effeithiwyd yn uniongyrchol ar Gastell Trefynwy yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr gan ei fod yn gadarnle i'r rhanbarth a bod targedau llai yn fwy deniadol i'w hymosod arnynt.