Castell Powys

castell rhestredig Gradd I yn Y Trallwng
(Ailgyfeiriad oddi wrth Castell Powis)

Saif Castell Powys neu weithiau Castell Coch, sy'n gastell canoloesol, ger tref y Trallwng, ym Mhowys. Mae'n dyddio'n ôl i tua 1266 pan newidiodd Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn (hefyd Owen de la Pole; (c. 1257 – c. 1293)), yr olaf o Dywysogion Powys ei deyrngarwch i frenin Lloegr.

Castell Powys
PowisCastle.jpg
Castell Powys o'r de, gyda'i gerddi enwog.
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadY Trallwng Edit this on Wikidata
SirY Trallwng Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr139.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.649909°N 3.160738°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganYr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'n gastell i Iarll Powys a bellach ym meddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Caiff y gerddi Baróc eu cydnabod fel rhai o'r enghreifftiau gorau yng ngwledydd Prydain o fath Baróc. Maent yn cynnwys gerddi ffurfiol, parc ceirw, llawer o goed afal a thwnel o goed grawnwin.

Castell Powys o'r cefn, tua 1778

Dywedir i'r Dywysoges Victoria ymweld â Chastell Powys gyda'i mam ym 1832.

Rhai o'r prif atyniadauGolygu

Amgueddfa Syr CliveGolygu

Mae'r amgueddfa hon yn cynnwys llawer iawn o arteffactau diddorol o India. Casglodd Edward Clive (a newidiodd ei enw'n ddiwedarach i "Herbert") yn y 18g, lawer o luniau enwog, dodrefn drudfawr o Ffrainc a Lloegr a llawer iawn o ddodrefn a cherfluniau o'r Eidal.[1] Mae'r casgliad hwn hefyd yn cynnwys tecstiliau, arfau, arteffactau efydd, darnau arian a sguthrod eliffantod. Agorwyd y rhan hon o'r castell yn 1987.[2]

 
Y gerddi

Y gath RufeinigGolygu

Yn y prif goridor, ceir cerflun dwy fil o flynyddoedd oed o gath a neidr. Mae'n dyddio'n ôl i'r ganrif gyntaf neu'r ail O.C. Mae cerfluniau Rhufeinig o gathod yn hynod brin. Credir mai dyma'r unig esiampl o'i fath drwy'r byd, sydd wedi goroesi. Ceir dau gerflun arall o gathod: y naill o Pompeii a'r llall yn Amgueddfa'r Fatican, ond mae'r ddau yma'n wahanol gan eu bont yn darlunio cath yn ymosod ar dderyn.

Credir i Clive brynu'r darn marmor hwn yn anrheg i'w wraig pan ymwelodd â'r Eidal yn 1774. Mwyngloddiwyd y darn marmor o Ynys Thasos a cheir ynddo lawer o grisialau mawr, a oedd yn gwneud y gwaith o'i greu'n llawer anoddach.

Gweler hefydGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

CyfeiriadauGolygu