Castell Ystrad Meurig

(Ailgyfeiriad o Castell Ystradmeurig)

Castell o gyfnod y Normaniaid y mae ei adfeilion yn gorwedd ger pentref Ystrad Meurig, canolbarth Ceredigion, yw Castell Ystrad Meurig.

Castell Ystrad Meurig
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.290441°N 3.903664°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCD032 Edit this on Wikidata

Codwyd castell mwnt a beili ar y safle gan yr arglwydd Normanaidd Gilbert de Clare tua'r flwyddyn 1116. Llosgwyd y castell hwnnw gan meibion Gruffudd ap Cynan yn 1137 yn ôl cofnod yn Brut y Tywysogion am y flwyddyn honno.

Fe'i ailadeiladwyd mewn cerrig gan Cadell, Rhys a Maredudd, meibion Gruffudd ap Rhys o Ddeheubarth, yn y flwyddyn 1151, ond fe'i cipiwyd oddi wrthynt gan y Normaniaid yn 1158. Cipiwyd y castell gan wŷr Deheubarth unwaith eto yn 1164 a bu yn eu meddiant am dros ddeng mlynedd ar hugain, er iddo syrthio i'r Normaniaid am flwyddyn. Cafodd ei ddinistrio'n derfynol yn 1199 ar ôl bod ym meddiant Maelgwn ap Rhys ap Gruffudd.[1]

Mae gwaith archaeolegol diweddar ar y safle wedi canfod olion o'r hyn a allai fod yn llys ac amddiffynfa sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol Cynnar. Mae'r archaeolegwyr yn awgrymu mai hwn oedd safle un o brif lysoedd brenhinoedd Ceredigion.[2]

Ar ben Craig Ystrad Meurig i'r gogledd o'r pentref ceir bryngaer fechan. Nepell o'r castell ceir Cors Caron. Tua 3 milltir i'r dwyrain, dros y dyffryn, ceir Abaty Ystrad Fflur lle claddwyd y bardd Dafydd ap Gwilym.

Ffynonellau

golygu

Afan ab Alun, Cestyll Ceredigion (Gwasg Carreg Gwalch, 1991)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cestyll Ceredigion.
  2. "Ymchwil archaeolegol ar y safle". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-06. Cyrchwyd 2009-04-22.