Caterina Valente
Cantores amlieithog o Ffrainc a'r Eidal oedd Caterina Valente (14 Ionawr 1931 – 9 Medi 2024).[1] Cafodd ei geni ym Mharis, i rieni o dras Eidalaidd, Giuseppe a Maria Valente.[2] Siaradai chwe iaith a chanai mewn 13. Roedd Valente yn fwyaf adnabyddus fel perfformiwr yn Ewrop, ond treuliodd ran o’i gyrfa yn yr Unol Daleithiau, lle bu’n perfformio ochr yn ochr â Bing Crosby ac Ella Fitzgerald, ymhlith eraill.
Caterina Valente | |
---|---|
Ganwyd | Caterina Germaine Maria Valente 14 Ionawr 1931 Paris, 12fed arrondissement Paris |
Bu farw | 9 Medi 2024 Lugano |
Man preswyl | Lugano |
Label recordio | RCA Records, Polydor Records, Decca Records, Fonit Cetra, EMI Records, Bluebell Records, Ariston, Electrola |
Dinasyddiaeth | Ffrainc, yr Eidal |
Galwedigaeth | actor, canwr, gitarydd, dawnsiwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, jazz lleisiol, bossa nova, schlager music |
Tad | Giuseppe Valente |
Mam | Maria Valente |
Priod | Roy Budd |
Plant | Eric van Aro |
Gwobr/au | Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Romy, Goldene Stimmgabel |
Gwefan | http://www.caterinavalente.com/ |
Roedd ei rhieni yn gerddorion o deulu a oedd wedi bod yn perfformio ers saith cenhedlaeth. Roedd ei mam yn ddiddanwr ac meimiwr. Dechreuodd ei gyrfa yn 1936 yn theatr varieté y Friedrichsbau yn Stuttgart. Ymddangosodd hefyd fel gitarydd mewn chwechawd gyda'i rhieni a thri o'i brodyr a'i chwiorydd.
Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, teithiodd y teulu i'r Swistir ac ni allent ddychwelyd i Baris. Bu'n rhaid iddynt gytuno i weithio gyda byddin yr Almaen er mwyn goroesi, er nad oedd y teulu eisiau byw yn yr Almaen yn ystod y rhyfel. Yn 13 oed roedd hi yn ninas Breslau yn ystod y cyrchoedd bomio, a chynorthwyodd i achub dioddefwyr a gofalu amdanynt. Dychwelodd y teulu i Ffrainc ar ôl aros mewn sawl gwersyll yn Rwsia. Bu'n gweithio fel cantores llawrydd mewn clybiau, yn perfformio chansons, rhai wedi'u cyfansoddi iddi gan Gilbert Bécaud.
Ym 1953, bu'n glyweliad gyda Kurt Edelhagen, arweinydd band y darlledwr Süddeutscher Rundfunk yn yr Almaen ar y pryd. Dywedodd Edelhagen mai hi oedd y fenyw fwyaf cerddorol a glywodd erioed. Daeth ei hail recordiad "O Mama, O Mama, O Mamajo" yn llwyddiant ar unwaith. Yn 1954, ymwelodd â Dinas Efrog Newydd am y tro cyntaf. Gyda "Ganz Paris träumt von der Liebe" (fersiwn Almaeneg o "I Love Paris"), daeth hi'n llwyddiannus; gan werthu 500,000 o gopïau yn 1955, a mwy na 900,000 hyd at Rhagfyr 1958, yn ôl adroddiad Der Spiegel. Cynhyrchodd "Malaguena" gyda'r arweinydd Werner Müller yn Berlin, a ddaeth yn llwyddiannus yn yr Unol Daleithiau ac arweiniodd at ei hymddangosiad teledu tramor cyntaf.
Ym 1955, cafodd sylw ar The Colgate Comedy Hour gyda Gordon MacRae. O 1957 ymlaen ymddangosodd ar y teledu, yn y sioe bersonoliaeth Almaeneg gyntaf, Bonsoir, Kathrin, a barhaodd tan 1964. Roedd ei brawd, y cerddor Eidalaidd Silvio Francesco, yn perfformio gyda hi. Gwerthodd sengl Valente, "The Breeze and I" (1955), fwy na miliwn o gopïau, yn ôl adroddiad o 1978, gan ei gwneud yn record a werthodd orau.
Ym 1958, ffilmiodd hi’r gomedi gerddorol Hier bin ich – hier bleib ich a oedd yn cynnwys ymddangosiad gwadd gan Bill Haley & His Comets. Canodd Valente ddeuawd gyda Haley ar fersiwn newydd ei record o'i gân "Vive la Rock and Roll". Cafodd ei henwebu am Wobr Grammy am "La strada del amore" yn 1959.[3][4] Perfformiodd am y tro cyntaf ar lwyfan Las Vegas yn 1964 ac roedd ganddi ei sioe ei hun ar Broadway.
Priododd Valente gyntaf â'r jyglwr o'r Almaen, ei rheolwr Gerd Scholz, ac fe barodd y briodas rhwng 1951 a 1971. Ei hail gŵr oedd y pianydd o Sais, Roy Budd (1947-1993). Cawsant ysgariad yn 1980. Roedd ganddi ddau fab.[1]
Bu farw Valente gartref yn Lugano ar 9 Medi 2024, yn 93 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Harrison Smith (12 Medi 2024). "Caterina Valente, international singing star, dies at 93". Washington Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Medi 2024.
- ↑ "Gwefan Caterina Valente". Caterinavalente.com. 3 Ionawr 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2020.
- ↑ Willander, Arne (11 Medi 2024). "Tausendsassa des alten Europa: Zum Tod der wunderbaren Caterina Valente". Rolling Stone (yn Almaeneg). Cyrchwyd 16 Medi 2024.
- ↑ "Caterina Valente". GRAMMY.com (yn Saesneg). 4 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 16 Medi 2024.