Cawrdaf mab Caradog Freichfras

Pennaeth o'r Hen Ogledd a sant oedd Cawrdaf mab Caradog Freichfras, neu Cawrdaf Sant (bl. 6g). Fe'i cysylltir â'r Hen Ogledd a Chymru ond mae'r traddodiadau amdano'n gymysg.

Cawrdaf mab Caradog Freichfras
Bu farw6 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Dydd gŵyl5 Rhagfyr Edit this on Wikidata
TadCaradog Freichfras Edit this on Wikidata
MamTegau Eurfron Edit this on Wikidata
PlantCathen Edit this on Wikidata
Eglwys Cawrdaf Sant, Abererch

Traddodiadau golygu

Cyfeirir at Gawrdaf yn y Trioedd fel un o "Dri Chynweisiad Ynys Prydain". Ystyr y gair Cymraeg Canol cynweisiad yw 'prif swyddog' neu 'dywysog'. Roedd yn fab i'r pennaeth Caradog Freichfras.[1] Roedd ei frodyr yn cynnwys Cadfarch a Maethlu.

Rhoddir ach Cawrdaf ym Monedd y Saint. Yn ôl yr achau hyn, roedd Cawrdaf yn dad i 'Medrawd', ond does dim sicrwydd os ydy'r Medrawd hwnnw i'w uniaethu â'r Medrod (Medrawd) adnabyddus, gelyn marwol y Brenin Arthur yn y Rhamantau Arthuraidd. Roedd Dyfnog (Defynog) Sant, sefydlydd Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, yn ŵyr i Gawrdaf.[2] Mam Cawrdaf oedd Tegau Eurfron, ferch Nudd Hael. Trwy ei dad roedd yn un o ddisgynyddion Coel Hen.

Yn y chwedl fwrlesg Breuddwyd Rhonabwy, rhestrir Cawrdaf fel un o gynghorwyr y Brenin Arthur.[3]

Yn ôl un traddodiad, sefydlodd Cawrdaf linach brenhinol yn rhanbarth Rhwng Gwy a Hafren.

Eglwysi golygu

Cysgegrir eglwys Abererch yn Eifionydd, Gwynedd i Gawrdaf Sant. Ceir Ffynnon Gawrdaf ym mynwent yr eglwys a charreg fawr a enwir yn 'Gadair Cawrdaf', gyda eisteddle ynddo. Roedd defod hynod yn gysylltiedig â gŵyl y sant yn yr eglwys.[4]

Cof golygu

Gwylmabsant: 5 Rhagfyr (neu 12 Tachwedd).

Cymerodd y bardd William Ellis Jones (1795-1848), brodor o Abererch, yr enw barddol 'Cawrdaf' a chyfeirir wrtho gan amlaf wrth yr enw hwnnw.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978), tud. 303 a Thriawd 13.
  2. Trioedd Ynys Prydein, tud. 303.
  3. Melville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948), tud. 20.
  4. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).