Catrin o Valois

gwraig Harri V, brenin Lloegr, ac yna Owain Tudur
(Ailgyfeiriad o Catherine de Valois)

Gwraig Harri V, brenin Lloegr, oedd Catrin o Valois (27 Hydref 14013 Ionawr 1437).[1]

Catrin o Valois
Ganwyd27 Hydref 1401 Edit this on Wikidata
Hôtel Saint-Pol, Paris Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ionawr 1437 Edit this on Wikidata
Llundain, Abaty Bermondsey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddPrince of Achaea Edit this on Wikidata
TadSiarl VI, brenin Ffrainc Edit this on Wikidata
MamIsabeau o Fafaria Edit this on Wikidata
PriodHarri V, brenin Lloegr, Owain Tudur Edit this on Wikidata
PlantHarri VI, brenin Lloegr, Edmwnd Tudur, Siasbar Tudur, Margaret Tudor Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Valois, tuduriaid Edit this on Wikidata

Roedd Catrin yn ferch i'r brenin Siarl VI, brenin Ffrainc. Priododd Harri V ar 2 Mehefin, 1420 a chawsant fab a ddaeth yn frenin Harri VI, brenin Lloegr; ganwyd 6 Rhagfyr, 1421.

Catrin o Valois

Wedi marwolaeth ei gŵr, priododd y Cymro Owain Tudur yn 1429 yn dilyn newid deddfwriaethol i ganiatáu i weddw brenin briodi eilwaith. Dyma ddechrau llinach y Tuduriaid yn Lloegr.

Bu Catrin yn wael am gryn amser a symudodd i Abaty Bermondsey ble y bu farw. Symudwyd ei chorff i Abaty Westminster ble mae ei chorffddelw i'w gweld heddiw.

Plant golygu

Cafodd chwech o blant, gyda'i hail ŵr, Owain Tudur:

Cyfeiriadau golygu

  1. "Catherine Of Valois | French princess". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2018.