Edmwnd Tudur
Mab Owain Tudur a thad Harri VII, brenin Lloegr oedd Edmwnd Tudur neu Edmund Tudor (11 Mehefin 1431 – 3 Tachwedd 1456). Roedd Edmwnd yn fab i Owain Tudur a Catrin o Valois, gweddw Harri V, brenin Lloegr a merch y brenin Siarl VI, brenin Ffrainc. Gwnaeth ei hanner brawd, Harri VI, brenin Lloegr, ef yn Iarll Richmond ar 23 Tachwedd 1452 a'i frawd Siasbar yn Iarll Penfro. Yn 1455 priododd Margaret Beaufort pan oedd hi'n ddeuddeg oed, a ganed un mab iddi: Harri (Harri VII yn ddiweddarach), dri mis wedi marwolaeth Edmwnd.
Edmwnd Tudur | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1430 ![]() Much Hadham Hall ![]() |
Bu farw | 3 Tachwedd 1456, 1 Tachwedd 1456 ![]() Caerfyrddin ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | pendefig ![]() |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi ![]() |
Tad | Owain Tudur ![]() |
Mam | Catrin o Valois ![]() |
Priod | Margaret Beaufort ![]() |
Plant | Harri VII ![]() |
Llinach | House of Valois, tuduriaid ![]() |

Ganwyd Edmwnd Tudur ym mhlasty Much Hadham, Swydd Hertford. Yn 1436, ymneilltuodd ei fam i Abaty Bermondsey ble y bu farw yn 1437. Magwyd ef a'i frawd Jasper, felly, gan Katherine de la Pole, Prif Leian Barking, a buont gyda hi tan 1442 pan danfonwyd hwy i lys Harri VI, brenin Lloegr i'w haddysgu.[1] Cafodd Edmwnd aros yn y Llys[1]. Ar 30 Ionawr 1452 cafodd ei wysio i'r Llywodraeth fel Iarll Richmond ac yna fel Uwch Iarll ar 6 Mawrth. Yr un pryd gwnaed Jasper yn Iarll Penfro. Cyhoeddodd y Llywodaeth ef yn fab cyfreithlon yn 1453 a rhoddwyd iddo gryn gyfoeth gan y brenin.
Marw Golygu
Yn eironig, yng Nghymru y bu farw Edmwnd, wedi iddo gael ei ddanfon gan y brenin i roi trefn ar Dde Cymru, gan nad oeddent yn derbyn awdurdod Dug Efrog a'i gynrychiolydd sef William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) yng Nghymru, i arglwyddiaethu drostynt. Dyma ddechrau'r cyfnod a elwir yn Rhyfel y Rhosynnau, gyda'r brenin, Siasbar, Edmwnd - a'u tad Owain Tudur yn ochri gyda Lancastriaid a'r Dug Efrog ac eraill gyda'r Iorciaid. Fe'i carcharwyd am ychydig gan Herbert yng Nghastell Caerfyrddin, lle'r aeth yn wael; ni wyddus yn union beth a achosodd ei farwolaeth, ac mae'n bosibl mai cael ei wenwyno a wnaeth.
Canodd y beirdd am Edmwnd: 'yn frawd i'r brenin, nai i'r Dauphin a mab Owain', bu farw yn ddim ond 26 oed. Llai na hanner hynny oedd oedran ei ail-wraig Margaret o Anjou: deuddeg. Ac ar ddiwrnod ei farwolaeth, ni wyddai Edmwnd fod yn ei chroth blentyn - Harri. Yn dilyn marwolaeth Edmwnd cymerodd Siasbar ofal ohono a'i ystâd enfawr. Yn dilyn buddugoliaeth yr Iorciaid ym Mrwydr Mortimer's Cross gorseddwyd Edward IV yn frenin a dihangodd Sisbar, Harri a'i wraig Margaret i'r Alban, Ffrainc, Llydaw a gwledydd eraill gan geisio annog ailfeddianu coron Lloegr i Edward.
Ar 1 Tachwedd 1456 bu farw Edmwnd;[2] ar 28 Ionawr 1457, 4 mis yn ddiweddarach, ganwyd Harri yng Nghastell Penfro, gan adael ddeufis yn ddiweddarach yn ôl i'w cartref yn Llundain.
Llinach Golygu
Yn ogystal â Siasbar roedd gan Edmwnd frawd o'r un enw a'i dad (Owain) a fu'n fynach, a chwaer o'r enw Marged a fu farw'n ifanc. Roedd y Tuduriaid yn deulu uchelwrol iawn, ond teulu a gollasant eu tiroedd oherwydd iddynt fod yn driw i Glyn Dwr yn ystod ei wrthryfel. Edrychwyd ar Owain gan y Saeson, felly, fel rebel eilradd nad oedd hawl ganddo gario arfau na dal swydd. Mae ei garwriaeth gyda Chatherine felly'n dipyn o ryfeddod i'r hanesydd.
Ednyfed Fychan m. 1246 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Goronwy ab Ednyfed m. 1268 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tudur Hen (hefyd Tudur ap Goronwy) m. 1311 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Goronwy ap Tudur Hen m. 1331 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Elen ferch Tomos (mam Owain Glyn Dŵr) | Marged ferch Tomos | Tudur ap Goronwy d. 1367 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Maredudd ap Tudur m.1406 | Rhys ap Tudur d. 1409 | Gwilym ap Tudur m. 1413 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Tudur (m.1461) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Edmwnd Tudur d. 1456 | Siasbar Tudur m.1495 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Harri VII m. 1509 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ 1.0 1.1 Edmund Tudor, Duke of Richmond, father of Henry VII, paternal grandfather of Arthur, Margaret, Henry, and Mary Tudor | Flickr – Condivisione di foto!
- ↑ Miranda Jane Aldhouse-Green; Ralph Alan Griffiths; Raymond Howell; Tony Hopkins (2004). The Gwent County History: The age of the Marcher Lords, c.1070-1536 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 265. ISBN 978-0-7083-2072-3.