Cynhyrchydd, cyfarwyddydd a chyfansoddwraig ym myd theatr a theledu yw Catrin Edwards. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio yn y Cyfryngau yng Nghymru ers y 1970au. Roedd hi'n un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws ym 1977, a fel cerddor y cwmni bu'n gyfrifol am ganeuon a cherddoriaeth rhai o'r sioeau cynnar fel Bargen a Hwyliau'n Codi.[1]

Catrin Edwards
GalwedigaethCyfansoddwraig, Cyfarwyddydd a Chynhyrchydd Teledu
Cysylltir gydaTheatr Bara Caws

Bu'n gweithio ar ochr gynhyrchu drama teledu a chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni drama a dogfen ers yr 1980au gan gynnwys y gyfres ddrama Traed mewn Cyffion

Ers dechrau'r 1990au, mae Catrin wedi cynhyrchu a chyfarwyddo nifer helaeth o raglenni dogfen tra'n dal i gyfarwyddo'n achlysurol yn y theatr.

Gallwch chi glywed llais Catrin yn canu'r gân Hiraeth am Fethesda o'r sioe Bargen (1979) yma.

Caneuon eraill a gyfansoddwyd gan Catrin ar gyfer Theatr Bara Caws (1977-1981) i'w clywed ar dudalen Mae o'n brifo 'nghlust i (1981)

(detholiad)

Theatr

golygu

Teledu a ffilm

golygu
  • Traed mewn Cyffion
  • Gwrthryfel Gwent (2014)
  • Cofio Senghennydd (2012)
  • Henry Richard: Yr Apostol Heddwch (2013)
  • Mamwlad (2011)
  • Busnes a (2010)
  • O'r Galon: Frank Letch (2010)
  • O'r Galon: Siwrne Sharon (2010)
  • Trip yr Ysgol Gymraeg (2009)
  • Yn y doc (2007)
  • O'r Galon: Arthur Rowlands (2007)
  • Aberfan (2006)
  • David Lloyd George (2006)
  • O'r Galon: Cyrraedd Blaenycwm cyn yr hwyr (2006)
  • Rhyfel y Cymry (2006)
  • Canolfan Mileniwm Cymru (2004)
  • Pacio: Rajasthan (2003)
  • Tongues of Fire (2003)
  • Hafan Gobaith (2003)
  • Pobol y Cwm (2002-2003)
  • Sal (2002)
  • High Performance
  • Double Yellow: Sand Mandala (2001)
  • O Flaen Dy Lygaid (2000 -
  • Ar ôl yr Orsedd (1999)
  • Beti a'r Gerddorfa (1999)
  • The Slate: Brenda Chamberlin (1997)
  • Canwr y Byd Caerdydd (1995 a 1997)
  • Pris y Farchnad
  • Tydi Coleg yn Grêt (1995)
  • Mahlerfeest Amsterdam (1995)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Catrin Edwards". Catrin Edwards (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-24.