Hwyliau'n Codi
Cynhyrchiad theatr Cymraeg gan Theatr Bara Caws yw Hwyliau'n Codi. Fe lwyfannwyd y gwaith am y tro cyntaf yn nhymor yr Hydref 1979. Dyma un o gynyrchiadau cyntaf y cwmni, yn dilyn llwyddiant y sioe Bargen am y chwarelwyr.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Theatr Bara Caws |
Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Mawrth 1996 |
Pwnc | Dramâu Cymraeg |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780863813610 |
Tudalennau | 64 |
Cyfres | Cyfres I'r Golau |
Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny fel rhan o Gyfres I'r Golau yn 1996. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Disgrifiad byr
golyguCynhyrchiad theatr yn portreadu caledi bywyd morwyr ydi Hwyliau'n Codi a thrachwant perchenogion llongau yn y 19g. Cyfuniad o olygfeydd a chaneuon a grëwyd gan y cwmni yw'r gwaith, ar ffurf theatr Agitprop.
"Hanes y brodyr Davies o Borthaethwy ym Môn, [John Davies, Robert Davies a Richard Davies] meistri llongau yn ail hanner y ganrif ddiwethaf. Ym 1905 bu farw'r olaf o'r brodyr, Robert yn 89 oed. Er iddo fel Methodist pybyr roi miloedd ar filoedd o bunnau i godi capeli, ac at achosion da, gadawodd dros bedwar can mil o bunnau yn ei ewyllys. Nid mor hir oedd bywyd y rhan fwyaf o'r morwyr cyffredin a hwyliai yn llongau'r Daviesiaid, ac 'roedd y bwyd mor brin ar eu bwrdd fel nad oedd llawer o wylanod yn dilyn y longau. Dyna pam y'u llys-enwyd yn "one-gull ships""[2]
Mae'r stori yn gorgyffwrdd â chymeriadau hanesyddol eraill fel y Parch Henry Rees, Lerpwl.
"Morwyr yn hytrach na byd y chwarelwr sydd yma", eglura Aled Eames yn y rhagymadrodd i'r cyhoeddiad ym 1996; "Ond yn y ganrif ddiwethaf roedd bron cymaint o fechgyn ifainc Cymru yn mynd i'r môr ag i'r chwarel neu'r pwll glo, yn enwedig o ardaloedd amaethyddol arfordir Cymru".[3]
Cymeriadau
golygu- John Davies - y brawd hynaf a dyn busnes craff
- Robert Davies - yr ail frawd, philanthrobydd, dyn ar ben ei hun
- Richard Davies - y brawd ieuengaf, Aelod Seneddol Môn, dyn handsome
- Ann Davies - merch y Parch Henry Rees, Lerpwl, mewn cariad efo Richard
- Charles Pierce - cefnder y brodyr, Maer Bangor, credwr mewn ehangu
- Mesach Roberts - drugist, dyn ffeind, cyfaill y plant
- Clarc
- Capten
- Mêt
- Morwyr
- Gweddw
- Hogyn
- Crimp
- ac amryfal gymeriadau isel ac amheus eraill
Caneuon
golyguCafodd dwy gân a blas o ddeialog y sioe wreiddiol eu recordio ym 1981 ar record Theatr Bara Caws, Mae o'n brifo 'nghlust i. Catrin Edwards oedd y gyfansoddwraig.
Cynyrchiadau nodedig
golygu1970au
golyguLlwyfannwyd a chrëwyd y cynhyrchiad yma gan aelod o Theatr Bara Caws yn Hydref 1979. Yr aelodau dan sylw ar y pryd oedd Dyfan Roberts, Iola Gregory, Falmai Jones, Myrddin Jones ac Owen Garmon.[3] Cerddorion: Catrin Edwards, Bethan Miles; cyfarwyddwr Gruffydd Jones.
Derbynniodd y cwmni adolygiadau ffafriol iawn ar y pryd. Dyma oedd gan Eifion Glyn i'w ddweud yn Y Cymro yn Nhachwedd 1979: "Mae yna elfen o feirniadaeth gymdeithasol yn y ddrama hon, fel ag yr oedd yng nghynhyrchiad gwych arall y cwmni, Bargen. Ond nid trwy bregethu y trosglwyddir y neges. Dychan yw'r arf a ddefnyddir i'w gyrru hi adref."[4]
Yn Neuadd Idris Dolgellau gwelodd y llenor Marion Eames y cynhyrchiad: "Er mai dim ond ychydig o focsys oedd y celfi ar y llwyfan, fe'm hyrddiwyd o dristwch i chwerthin, yr emosiynau ar drugaredd y cwmni yn llwyr. Dyma beth yw theatr."[5]
Roedd gweld y cynhyrchiad gwreiddiol yn brofiad cyffrous i'r actores Betsan Llwyd, a ddaeth maes o law, yn arweinydd artistig Theatr Bara Caws: "...gweld y criw gwreiddiol yn cyflwyno Hwyliau’n Codi yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth ddiwedd y 1970au agorodd fy llygaid i bosibiliadau gwirioneddol gyffrous theatr Gymraeg, a pherfformiad Iola [Gregory] wedi serio ar fy nghof." [6]
Mae tair cân o'r sioe wedi'u cynnwys ar y record Mae o'n brifo 'nghlust i gan Theatr Bara Caws a ryddhawyd ym 1981.
2010au
golyguAil-lwyfannwyd y cynhyrchiad gan Theatr Bara Caws yn 2013 gyda'r actorion Rhian Blythe, Rhodri Siôn, Mirain Haf, Gwion Aled Williams a Carwyn Jones. Cyfarwyddwr oedd Betsan Llwyd.
Un fu'n gweld y cynhyrchiad newydd oedd yr adolygydd theatr Lowri Haf Cooke a nododd: "Mae sioe oesol, aml-haenog Hwyliau’n Codi yn cynnig adloniant o’r radd flaenaf a hanes tu hwnt o ddadlennol. Ond os am gynhyrchiad gwleidyddol i danio cynulleidfa gyfoes, rhaid aros am rifiw gwreiddiol sy’n ymateb i sefyllfa heddiw. [...] Ymysg y criw gwreiddiol yr oedd Iola Gregory, ac roedd sicrhau cyfraniad ei merch hi Rhian Blythe ar gyfer yr adfywiad yn stynt PR a weithiodd yn dda wrth greu diddordeb."[7]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
- ↑ (yn en) Arwrgerdd Britannia/ Robert a Richard a John, https://soundcloud.com/baracaws/arwrgerdd-britannia-robert-a-richard-a-john, adalwyd 2024-09-24
- ↑ 3.0 3.1 Theatr Bara Caws (1996). Hwyliau'n Codi. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0 86381 361 5.
- ↑ Glyn, Eifion (13 Tachwedd 1979). Y Cymro.
- ↑ Eames, Marion (4 Ionawr 1980). Y Faner.
- ↑ "Cofio Iola | Theatr Bara Caws". www.theatrbaracaws.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-27.
- ↑ lowrihafcooke (2013-03-19). "Adolygiad Theatr: Hwyliau'n Codi (Theatr Bara Caws)". Lowri Haf Cooke. Cyrchwyd 2024-08-27.