Mae o'n brifo 'nghlust i
Record a ryddhawyd ym 1981 gan Theatr Bara Caws yw Mae o'n brifo 'nghlust i. Caneuon a sgetsus o sioeau cynnar y cwmni sydd ar y record, yn dyddio nôl i'w rifiw cyntaf Croeso i'r Roial ym 1977. Y lleisiau ar y record yw Iola Gregory, Myrddin [Mei] Jones, Dyfan Roberts, Valmai Jones, Gwyn Parry, Dafydd Saer a Catrin Edwards. Catrin Edwards oedd yn gyfrifol am y rhan helaeth o'r gerddoriaeth a Dyfan Roberts am y geiriau (oni nodir yn wahanol).[1]
Awdur | Theatr Bara Caws |
---|---|
Cyhoeddwr | Sain |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1981 |
Pwnc | Dramâu Cymraeg |
Darlunydd | Jac Jones |
Genre | record Gymraeg |
Cefndir
golyguCaneuon
golygu1. Croseo i'r Roial o'r sioe Croeso i'r Roial (Awst 1977)
2. Annwyl Santa o'r sioe Be' san ti Santa? (Rhagfyr 1977) geiriau gan y cwmni
3. Commercial Break o'r sioe Be' san ti Santa? (Rhagfyr 1977)
4. Cwyn y Ddynes 'Llnau o'r sioe Merched yn Bendant (Awst 1979)
5. Llyncwch Valium o'r sioe Merched yn Bendant (Awst 1979)
6. Bwji Bwji Bw o'r sioe Merched yn Bendant (Awst 1979)
7. Mae'r Peth yn Beryg Bywyd... o'r sioe Anturiaethau'r Bynsan Binc (Rhagfyr 1980)
8. Cytundeb Pennant Lloyd o'r sioe Bargen (Ionawr 1979)
9. Llythyr William o'r sioe Bargen (Ionawr 1979)
10. Hiraeth am Fethesda o'r sioe Bargen (Ionawr 1979) geiriau Catrin Edwards ar sail penillion traddodiadol Cân Ben Jeri
11. Arwrgerdd Britannia o'r sioe Hwyliau'n Codi (Tachwedd 1979)
12. Robert a Richard a John o'r sioe Hwyliau'n Codi (Tachwedd 1979)
13. Llestr Egwan o'r sioe Hwyliau'n Codi (Tachwedd 1979) sianti fôr draddodiadol Gymraeg.
14. Nos Da Nawr o'r sioe Anturiaethau'r Bynsan Binc (Rhagfyr 1980)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Theatr Bara Caws (1981). "Record Mae o'n brifo 'nghlust i". Sain.