Bargen
Cywaith o gynhyrchiad theatr Gymraeg yw Bargen neu Bargan a lwyfannwyd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979 gan Theatr Bara Caws. Mae'r sioe yn seiliedig ar streic Chwarel y Penrhyn, Bethesda, ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Theatr Bara Caws |
Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | Dramâu Cymraeg |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780863813085 |
Genre | drama |
Cyfres | Cyfres I'r Golau |
Fe gofir am y cynhyrchiad am dorri cwys newydd yn hanes y Theatr yng Nghymru ar y pryd.[1] Arddull Agitprop a fagwyd gan y cwmni ifanc ac anhegwch a thristwch y stori gafodd yr effaith fwyaf ar y gynulleidfa. Rebelaeth o fath oedd hanes creu Theatr Bara Caws, a hynny yn erbyn parchusrwydd a cynhyrchiadau mwy confensiynol Cwmni Theatr Cymru.
Fe grëwyd a pherfformiwyd y gwaith gan aelodau'r cwmni oedd yn cynnwys Dyfan Roberts, Elliw Haf, Valmai Jones, Myrddin Jones a J.O Jones. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Iola Gregory gyda Catrin Edwards fel trefnydd cerdd a rheolwr llwyfan.[1]
Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny ym 1995. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[2]
Disgrifiad byr
golygu"Un o'r dylanwadau mwyaf fu ar Wynedd oedd y diwydiant llechi. I chwarelwr roedd 'bargen' yn golygu'r darn hwnnw o'r graig y byddai'n weithio arni, ac ar ansawdd y fargen y dibynnai ei gyflog am y mis. Cyflwynir y rhaglen hon fel teyrnged i'r chwarelwyr a'u teuluoedd a ddioddefodd anghyfiawnder gydag urddas tawel a'r gobaith "Trech gwlad nag Arglwydd"." [1]
Dyna'r cyflwyniad a geir yng nghyhoeddiad 1993 o Bargen gan Wasg Carreg Gwalch. Ceir hefyd ragymadrodd manwl o sut mae'r cynhyrchiad yn perthyn i draddodiad y theatr wleidyddol ac Agitprop, gan yr academydd Elan Closs Stephens.
Roedd y sioe / rhaglen yn gyfuniad o ganu a golygfeydd dramatig, gyda'r pum actor yn dyblu i bortreadu holl gymeriadau yn y sioe. Y chwarelwyr a'u teuluoedd oedd yr arwyr, ac Arglwydd Penrhyn a'i deulu oedd y gelyn.
Cymeriadau
golygu- Gŵr (mewn ocsiwn gyfoes)
- Ei wraig (mewn ocsiwn gyfoes)
- Plant
- William - yn blentyn ac oedolyn
- Richard - yn blentyn ac oedolyn
- Meri - yn blentyn ac oedolyn
- Maldwyn - butler Castell Penrhyn
- Lady Penrhyn
- Lord Penrhyn
- Katie (eu merch)
- Mam William
- Sarjant Owen
- Meri Lisi - hen wraig fusneslyd
- Ocsiwnïar
Caneuon
golyguMae blas o'r sioe wreiddiol wedi'i gofnodi ar record Theatr Bara Caws, Mae o'n brifo 'Nghlust i o 1981. Cyfansoddwraig Catrin Edwards.
Cynyrchiadau nodedig
golygu1970au
golyguLlwyfannwyd y gwaith am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979. Yr actorion oedd Dyfan Roberts, Elliw Haf, Valmai Jones, Myrddin Jones a J.O Jones. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Iola Gregory gyda Catrin Edwards fel trefnydd cerdd a rheolwr llwyfan.[1]
"Yng nghanolfan yr Urdd yng nghanol y dref, roedd 'na dyrfa o rhyw ddeucant yn gwylio cynhyrchiad o Bargen [...] oedd wedi'i wasgu rhwng y pnawn a pherfformiadau'r nos", adroddai Myrddin ap Dafydd yn ei Ragair i Gyfres I'r Golau ym 1993. "...Gwyddai pawb fod rhywbeth arbennig, cwbl arbennig ar droed yn y theatr Gymraeg.[...] Bymtheng mlynedd yn ddiweddarach, rwy'n dal i gofio'r emosiwn a'r tyndra a'r croen gŵydd a'r iasau a gerddai i fyny ac i lawr fy nghefn", ychwanegodd.[1]