Catrin Jones

llenor

Llenor ac athrawes o Ynys Môn yw Catrin Jones.[1]

Catrin Jones
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor, athro ysgol uwchradd Edit this on Wikidata

Ar ôl graddio o Brifysgol Bangor aeth i Gaerdydd fel athrawes Ddrama yn Ysgol Gyfun Llanhari. Dychwelyd i'w gwreiddiau a wnaeth fel Bennaeth yr Adran Ddrama yn Ysgol y Creuddyn, Llandudno. Yn ogystal ag addysgu Drama mae hi hefyd yn mynychu'r theatr yn rheolaidd, yn cyfarwyddo, hyfforddi, beirniadu ac actio. Mae ar fwrdd rheoli Cwmni'r Frân Wen a "Llwyfan Gogledd Cymru" ac mae hi'n Gyfarwyddwraig Artistig Theatr Fach Llangefni.

Cyhoeddwyd y gyfrol Cyfres Codi'r Llenni - I Dir Neb: Sgript a Gweithgareddau gan wasg Y Lolfa yn 2007.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "www.gwales.com - 862439566". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Catrin Jones ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.