Theatr Fach Llangefni
Mae Theatr Fach Llangefni wedi ei lleoli yn stad Pencraig yn Llangefni, Ynys Môn.
Arwyddair | "Cysgodion ydym - fel Cysgodion yr ymadawn" |
---|---|
Math | theatr |
Agoriad swyddogol | 3 Mai 1955 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llangefni |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.25619°N 4.29775°W |
Agorwyd drysau’r theatr ym 1955 ac mae wedi bod yn llwyfan ar gyfer dramâu, pantomeimiau a chyngherddau yn ddi-dor ers hynny. O’r cychwyn cyntaf gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal y theatr.[1]
Hanes
golyguBreuddwyd gŵr o’r enw Francis George Fisher oedd Theatr Fach Llangefni. Roedd Fisher yn gymeriad cymhleth ac fe’i disgrifiwyd fel, ’...Sais a ddysgodd Gymraeg.[2]’ ; ‘...a remarkable man, possessing dynamic powers.’ [3] ac fel un oedd ‘...yn ŵr o awdurdod a thân yn ei galon a golau yn ei ben, ac mae’r ddrama yng Nghymru yn dlotach o’i golli.’ [4]
Yn 1949 llwyfannwyd dramâu’r Gymdeithas yn Neuadd Ysgol y Sir ar y dechrau a chafwyd caniatâd i ddefnyddio’r labordy, fel gweithdy, yn yr hen ysgol pan agorwyd yr Ysgol Gyfun yn 1953. Yn 1954, penderfynodd y Pwyllgor Addysg dynnu’r hen ysgol i lawr a bu raid wynebu’r ffaith fod angen chwilio am gartref newydd, sefydlog. Ar y pryd yr oedd Cyngor Dinesig Llangefni wedi prynu Stâd Pencraig. Ymysg yr adeiladau oedd ysgubor helaeth a llofft stabal ynghyd â rhai ystafelloedd eraill. Cafwyd cytundeb y Gymdeithas i geisio sicrhau’r adeiladau drwy brynu, os yn bosibl, neu, o leiaf eu rhentu. Pan ddaeth y Gymdeithas yn denant am y tro cyntaf, talwyd rhent o 5/- yr wythnos! Yn ddiweddarach mentrwyd prynu’r adeilad am £250 swm a brofodd yn fuddsoddiad gwerth chweil.
“Yn niwedd Ionawr 1955 aeth criw o ryw ddau ddwsin o aelodau’r Gymdeithas ati i addasu’r ‘sgubor yn ôl syniadau George Fisher…Gyda chyfarwyddyd I. D. Thomas, Dirprwy Bensaer y Sir ac aelod o’r Gymdeithas aethpwyd ati i dynnu i lawr y llofft ac un wal a defnyddio’r rwbel fel sylfaen i lwyfan … trwy fisoedd y gaeaf a’r gwanwyn aeth y gwaith ymlaen yn ddi-stop am dair awr a hanner bob noson gwaith … prynu defnyddiau o bob math, sicrhau cyflenwad digonol o drydan, a chwilio am gadeiriau esmwyth i’r gynulleidfa…ni thalwyd dimau goch am lafur - gwirfoddolwyr oedd pob un o’r gweithwyr.” [5]
Agorwyd Theatr Fach Llangefni yn swyddogol ar nos Fawrth 3 Mai 1955 efo perffomiadau o Rwsalca (Chwedl Rawsiaidd) gan Cynan a It's Autumn Now gan Philip Johnson. Drama wedi ei selio ar waith Anton Chekhov.
Y Presennol
golyguHeddiw, mae gan y theatr awditoriwm â lle i 112 o gynulleidfa; llwyfan, system golau a sain, tŵr ac esgyll i storio golygfeydd a desg i reolwr llwyfan; gweithdy-storfa goed, paent a chelfi; dwy ystafell wisgo a dewis helaeth o wisgoedd uwchben yn y wardrob; Ystafell Fisher, sef ystafell aml-bwrpas i ymarfer; Cyntedd Cyril Bradley, lle mae’r ddesg docynnau a man cyfarfod a’r Bar lle mae modd torri syched cyn ac ar ôl perfformiadau.
Mae Theatr Fach wedi bod yn fagwrfa i sawl actor proffesiynol, gan gynnwys J. O. Roberts, Hywel Gwynfryn, Elen Roger Jones, Glyn (Pensarn) Williams, Yoland Williams, John Pierce Jones, Albert Owen, William R Lewis, Gwenno Ellis Hodgkins a dwsinau o rai amaturaidd.
Mae grŵp drama ieuenctid yn cael ei gynnal yn y theatr yn wythnosol ar y cyd â Menter Môn, sef Theatr Ieuenctid Môn.
Mae'r criw uwchradd yn cyfarfod bob nos Fawrth a'r criw cynradd yn cyfarfod ar nosweithiau Mercher.[6]
Pwyllgor Rheoli
golyguMae gan y theatr bwyllgor brwdfrydig sy’n gweithio yn wirfoddol i gynnal a chadw un o theatrau mwyaf unigryw Cymru. Aelodau'r Pwyllgor yn 2024 oedd : [7] Lowri Cêt - Cadeirydd; Owain Parry - Is-Gadeirydd; Catrin Lois a Mared Edwards - Ysgrifenyddion; Rhys Parry - Trysorydd; Anwen Weightman, Gethin Williams, Robert Idris, Emyr Rhys-Jones, Nia Haf, Llio Mai, Gethin Jones, Manon Wyn, Gwen Edwards, Carwyn Jones, Non Dafydd, Rhys Richards a Gareth Evans-Jones.
Llyfryddiaeth
golygu- J. Richard Williams, Deugain Mlynedd o Droedio’r Byrddau (Cyhoeddiad Theatr Fach, 1995)
- Cofio’r Adnabyddiaeth-Edward Williams, gol. O. Arthur Williams (Gwasg Pantycelyn)
- Llewelyn Jones, Francis George Fisher-Bardd a Dramodwr (Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1983)
- O. Arthur Williams, Hanes y Ddrama Gymraeg ym Môn 1930-75 (Cyhoeddiad preifat, 2008)
- Dilys Shaw, Theatr Fach Llangefni 1955-1983 (Cyhoeddiad Theatr Fach, 1983)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Williams, J. R. (2005-04-14). "Theatr Fach yn 50 mlwydd oed". TheatrFach Llangefni. Cyrchwyd 2024-08-12.
- ↑ Cylchgrawn Môn. Hydref 1950. Check date values in:
|year=
(help) - ↑ Bowen Thomas, Syr Ben (26 Hydref 1972.). "The North Wales Chronicle". The North Wales Chronicle. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Jones., Bedwyr Lewis (12 Awst 1970.). F.G. Fisher 1909-70. Taliesin. Check date values in:
|year=
(help) - ↑ Jones, Llywelyn (1983). “Francis George Fisher - Bardd a Dramodwr”. Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn.
- ↑ "Ieuenctid | Theatr Fach Llangefni". TheatrFach Llangefni. Cyrchwyd 2024-08-12.
- ↑ "Y Pwyllgor | Theatr Fach Llangefni". TheatrFach Llangefni. Cyrchwyd 2024-08-12.