Catrin o Valois
Gwraig Harri V, brenin Lloegr, oedd Catrin o Valois (27 Hydref 1401 – 3 Ionawr 1437).
Catrin o Valois | |
---|---|
![]() | |
Cyfnod | 2 Mehefin 1420 – 31 Awst 1422 |
Coronwyd | 23 Chwefror 1421 |
Ganwyd |
27 Hydref 1401 Paris, Ffrainc |
Bu farw |
3 Ionawr 1437 (35 oed) Llundain, Lloegr |
Claddwyd | Abaty Westminster, Llundain |
Priod |
Harri V, brenin Lloegr Owain Tudur |
Plant ac eraill |
Harri VI, brenin Lloegr Edmwnd Tudur Siasbar Tudur |
Teulu | Llinach y Valois |
Tad | Siarl VI, brenin Ffrainc |
Mam | Isabella o Bafaria |
Roedd Catrin yn ferch i'r brenin Siarl VI, brenin Ffrainc. Priododd Harri V ar 2 Mehefin, 1420 a chawsant fab a ddaeth yn frenin Harri VI, brenin Lloegr; ganwyd 6 Rhagfyr, 1421.
Wedi marwolaeth ei gŵr, priododd y Cymro Owain Tudur yn 1429 yn dilyn newid deddfwriaethol i ganiatáu i weddw brenin briodi eilwaith. Dyma ddechrau llinach y Tuduriaid yn Lloegr.
Bu Catrin yn wael am gryn amser a symudodd i Abaty Bermondsey ble y bu farw. Symudwyd ei chorff i Abaty Westminster ble mae ei chorffddelw i'w gweld heddiw.
PlantGolygu
Cafodd chwech o blant, gyda'i hail ŵr, Owain Tudur:
- Edmwnd Tudur
- Siasbar Tudur
- Owain Tudur
- Margaret (lleian)