Cefn Ogo
Ogof ger Abergele, Sir Conwy ydy Cefn Ogo (neu Cefn Gogo) a thua 750 metr i'r de-ddwyrain o Ogof Bontnewydd sydd ag olion Hen Oes y Cerrig (neu Paleolithig). Mae'n un o nifer o ogofâu sydd wedi'u lleoli yng nghymuned Cefnmeiriadog, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ020705[1]
Math | copa, bryn, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy, Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 204 metr |
Cyfesurynnau | 53.2816°N 3.6273°W |
Cod OS | SH9168677304 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 101.6 metr |
Rhiant gopa | Mwdwl-eithin |
Mae ceg yr ogof mor anferthol fel y'i galwyd unwaith gan William Davis yn ei lyfr 'hand-book for the Vale of Clwyd' fel one of the most spacious and magnificent caverns in Europe. Mae ceg yr ogof yn 50 troedfedd o uchter, gyda stalactites yn diferu o'r nenfwd mewnol. Gellir ymlwybro tua deugain medr i mewn i'r ogof cyn dod at rwystr, ac ni chredir fod neb wedi mynd ymhellach na'r dŵr hwn.
Cadw golygu
Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: DE115.[2] Ceir ogof arall gerllaw, sef Ogof Bontnewydd; cyfeiriad grid SJ015710 ac a gofrestrwyd gyda Rhif SAM: DE116.
Llyfryddiaeth golygu
Green, S. a E. Walker (1991) Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales (Caerdydd: Amgueddfa Genedlaethol Cymru) The Archaeology of Clwyd gan Gyngor Sir Clwyd, 1991.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ The Archaeology of Clwyd gan Gyngor Sir Clwyd, 1991.
- ↑ Cofrestr Cadw.
Cysylltiadau allanol golygu
- (Saesneg) Cefn Ogo ar wefan The Modern Antiquarian