Gwrthrych hynafol neu safle archeolegol sy'n werth ei gadw a'i warchod ydy heneb. Fel arfer mae o bwysigrwydd hanesyddol ac sydd wedi cael ei astudio gan haneswyr neu'n cael ei gadw a'i warchod ar gyfer astudiaeth hanesyddol yn y dyfodol. Mae'r term yn cael ei ddiffinio gan y gyfraith a chedwir rhestr o bob heneb yng Nghymru gan gyrff megis Cadw neu'r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a'u gwefan Coflein.

Croes Geltaidd: un math o henebion

Ymhlith yr enghreifftiau mae: bryngaerau, cestyll, mwnt a beili, cylchoedd cerrig, cromlechi a charneddau, meini hirion, crugiau crynion, siambrau claddu a cherrig gydag ysgrifen ogam arnynt.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu