Ceiri Torjussen
Cyfansoddwr yw Ceiri Torjussen (ganwyd 1976) sydd wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu yn yr Unol Daleithiau.[1]
Ceiri Torjussen | |
---|---|
Ganwyd | 1976 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Torjussen yng Nghaerdydd, Cymru yn 1976 ac mae'n siarad Cymraeg yn rhugl. Fe aeth i Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf a Choleg Chweched Dosbarth Dewi Sant[2]. Gan ddangos dawn am gerddoriaeth ers yn ifanc, dechreuodd ganu'r trwmped a'r piano yn wyth mlwydd oed, a dechreuodd gyfansoddi yn fuan wedi hynny. Er y cafodd ei hyfforddi mewn cerddoriaeth glasurol, fe chwaraeodd a chyfansoddodd ar gyfer nifer o fandiau soul, jazz, ffync a disco a dechreuodd gyfansoddi sgôr ar gyfer rhaglenni dogfen teledu tra dal yn yr ysgol uwchradd. Yn ogystal â ystod a cherddoriaeth orllewinol o'r Oesoedd Canol i'r presennol, mae ei ddiddordebau cerddorol yn cynnwys cariad arbennig at jazz, cerddoriaeth electronig a pheth cerddoriaeth an-Orllewinol, yn enwedig Gamelin Indonesia a cherddoriaeth glasurol India - canlyniad saith mis yn dysgu a theithio is gyfandir India yn 1995. Yn dilyn ei deithiau, derbyniodd radd Fagloriaeth mewn Cyfansoddi o Bhrifysgol Efrog, gydag anrhydedd dosbarth cyntaf, a gradd Meistr gan Brifysgol De Califfornia, Los Angeles.[3]
Gyrfa
golyguMae Ceiri wedi cyfansoddi sgôr ar gyfer chwe ffilm hyd yma. Yn 2006 dangoswyd y ffilm gyffro 'noir' Undoing am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Los Angeles, a dangoswyd Mentor, oedd yn serennu Rutger Hauer, yng Ngŵyl Ffilm Tribeca.[1] Yn fwy diweddar fe gyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer Live Free or Die Hard yn serennu Bruce Willis.[1] Mae ei gerddoriaeth yn cynnwys ffurfiau fel arswyd (Dracula III: Legacy, Soul’s Midnight, a cherddoriaeth ychwanegol ar gyfer Underworld: Evolution) a chomedi (Funky Monkey a cherddoriaeth ychwanegol ar gyfer Scary Movie II). Darparodd gerddoriaeth ychwanegol ar gyfer sioe deledu WB Glory Days, a sioeau rhwydwaith CBS Cold Case a Close to Home, a'r gyfres Dead Like Me, ar Showtime. Mae Torjussen wedi gweithio ar The Mr. Men a Dive Olly Dive lle derbyniodd enwebiad Daytime Emmy yn 2007 ar gyfer Sgôr Gwreiddiol Gorau.[3]
Mae Torjussen wedi trefnu ac arwain cerddorfa ar gyfer ffilmiau Hellboy, a Terminator 3: Rise of the Machines.[1]
Dolenni Allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Ceiri Torjussen - Credits - AllMusic". AllMusic. Cyrchwyd 12 June 2015.
- ↑ Ysbryd Tre'r Ceiri yn LA - Portread o Ceiri Torjussen gan Pwyll ap Siôn Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback; Adalwyd 2015-12-12
- ↑ 3.0 3.1 "Finale User Spotlight: The two worlds of composer Ceiri Torjussen - Finale". Finale. Cyrchwyd 12 June 2015.