Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd
Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg yn ardal yr Eglwys Newydd, Caerdydd yw Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd. Y prifathro presennol yw Mr Illtud James.[3].[4]
Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd | |
---|---|
Arwyddair | Cofia Ddysgu Byw |
Sefydlwyd | 1979 |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mr Illtud James |
Dirprwy Bennaeth | Mrs Catrin Dumbrill |
Lleoliad | Heol Glan y Nant, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, Cymru, CF14 1AP |
AALl | Cyngor Caerdydd |
Staff | 53 (2015)[1] |
Disgyblion | tua 475[2] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 3–11 |
Llysoedd | Taf, Thawan, Rhymni, Elai |
Gwefan | http://www.ygmg.com/ |
Sefydlwyd yr ysgol fel ysgol gynradd benodedig Gymraeg, agorodd ym 1979, gyda tua 370 o ddisgyblion.[5] Yn 2003, roedd tua 350 o ddisgyblion ar y gofrestr ac erbyn 2015 roedd 475.[4] Roedd yn un o'r bedair ysgol a sefydlwyd yn sgil diddymu Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf yn 1980 i ateb galw'r tŵf mewn addysg Gymraeg yng Nghaerdydd. Agorwyd yr ysgol ar safle Yr Erw Las yn rhannu adeiladau gyda Ysgol Gynradd Eglwys Wen. Y prifathro cyntaf oedd Gareth Evans.[6]
Mewn ymateb i'r galw am fwy o addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd fe symudodd yr ysgol i hen safle Ysgol Gynradd Eglwys Newydd yn Heol Glan y Nant yn mis Medi 2012. Estynnwyd yr adeilad gwreiddiol i ddarparu ystafelloedd dosbarth newydd, ystafell gyfrifiaduron, llyfrgell a uned feithrin. Roedd y safle newydd yn cynnig lle ar gyfer 420 disgybl yn cynnwys 32 lle meithrin (64 rhan amser).[1][2]
Cyn-ddisgyblion o nôd
golygu- Matthew Rhys, actor
- Ioan Gruffudd, actor
- Ceiri Torjussen, cyfansoddwr[7]
- Paul Carey Jones, canwr opera
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Prospectws Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd[dolen farw] (2015)
- ↑ 2.0 2.1 Adroddiad Estyn, Mehefin 2015[dolen farw]; Adalwyd 2015-12-12
- ↑ School Details: Ysgol Mynydd Bychan. Cyngor Caerdydd. Adalwyd ar 3 Chwefror 2010.
- ↑ 4.0 4.1 Adroddiad arolygiad Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd 15-18 Medi 2003. Estyn (17 Tachwedd 2003).
- ↑ Prosbectws Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd (2008).
- ↑ Our Children's Language: The Welsh-medium Schools of Wales 1939-2000; ISBN 0 86243 704 0
- ↑ Ysbryd Tre'r Ceiri yn LA Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback; Adalwyd 2015-12-12