Avanc
Avanc yw'r enw ar Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru sydd o dan arweiniad Trac, sef sefydliad datblygu traddodiadau gwerin.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cynulliad cerddorol |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Genre | Canu gwerin, canu gwerin |
Cefndir
golyguBu i Trac Cymru wahodd grŵp o'n cerddorion ifanc talentog i loywi eu sgiliau o dan gyfarwyddyd artistig Patrick Rimes (o'r grŵp gwerin Calan) cyn mynd â'u sioe ar y ffordd i wyliau o amgylch Cymru.
Nod yr ensemble yw hyfforddi cerddorion ifanc 18-25 oed mewn sgiliau perfformio a fydd yn eu helpu i yrfa fel cerddorion gwerin proffesiynol, yn ogystal â chynrychioli cerddoriaeth werin Cymru ar lwyfannau mawr. Eu tasg yw perfformio ar y safon uchaf, gan ail-ddehongli cerddoriaeth draddodiadol Gymreig ar gyfer cynulleidfaoedd newydd a modern.
Arweinir yr ensemble gan Patrick gyda chefnogaeth y tiwtoriaid Sam Humphreys a Gwenata. Cyfarfu llawer o'r cerddorion ar gwrs cerddoriaeth werin, cân a dawns Trac ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, Gwerin Gwallgo. Daethant o bob rhan o Gymru ac mae'r ensemble yn cynnwys ffidlau, telynau, chwibanau, gitâr, offerynnau taro a phibellau ynghyd â lleisiau a dawnsio step.
Gan dyfu allan o'r cwrs Gwerin Gwallgo blynyddol, mae'r Ensemble yn darparu'r cam nesaf i gerddorion sy'n hŷn nag ystod oedran Gwerin Gwallgo o 12-18. Cafodd ei dreialu gan Trac yn 2017/18 gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol, gan gynnal dau benwythnos ymarfer llwyddiannus.
Cefnogwyd ensemble 2018/19 a 2019/20 gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, gan ddod â’r cerddorion ifanc a’u tiwtoriaid ynghyd am dri phenwythnos ymarfer. Yn ystod yr amser hwn, gwnaeth yr Ensemble argraff ar gynulleidfaoedd yn Cwlwm Celtaidd, Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau, yr Ŵyl Pan-Geltaidd yn An Oriant yn Llydaw, a'r Eisteddfod Genedlaethol.[1]
Recordio cyngerdd
golyguCeir recordiad ar Youtube o gyngerdd a roddwyd gan Avanc ym mis Medi 2021 yn Theatr Soar, Merthyr Tudful. Yn y gyngerdd mae'r ensemble yn canu caneuon traddodiadol megis, Dacw Nghariad a rhai gwreiddiol fel Traeth y Bermo a chaneuon traddodiadol fel Malldod Dolgollon, a Cân Ysbrydion ac eraill ddaethpwyd o hyd o fewn archifau'r Llyfrgell Genedlaethol. Roedd y sioe hefyd yn cynnwys dawnsio clocsio gan rai o aelodau'r ensemble.[2]
Cynnyrch
golyguMaent wedi gallu recordio traciau newydd a ffilmio fideos sy'n cyd-fynd. Rhyddhawyd Mawrth Glas ar y 23 Medi 2020 a rhyddhawyd Fitz ar 23 Tachwedd 2020.[1]
Nawdd
golyguMae Avanc yn derbyn nawdd gan: Cyngor Celfyddydau Cymru, Tŷ Cerdd, y Loteri Genedlaethol, a Llywodraeth Cymru.[1]