Mae Julie Fowlis (ganwyd 20 Mehefin 1979) yn gantores werin ac amlofferynnwr o'r Alban sy'n canu yng Ngaeleg yr Alban yn bennaf.[1]

Julie Fowlis
Ganwyd20 Mehefin 1978 Edit this on Wikidata
Uibhist a Tuath Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcanwr, cerddor, canwr-gyfansoddwr Edit this on Wikidata
ArddullCanu gwerin, cerddoriaeth Celtaidd Edit this on Wikidata
PriodÉamon Doorley Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.juliefowlis.com/ Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Gyrfa gerddorol

golygu

Cafodd Fowlis ei magu yn Uibhist a Tuath, ynys fach ar Ynysoedd Allanol Heledd, mewn cymuned Gaeleg, ac mae wedi bod yn canu, canu'r pibau a dawnsio ers iddi fod yn blentyn.[1][2]

Mae hi'n perthyn i chwechawd Yr Alban, Dòchas,[3] a enillodd y wobr o Best Newcomer yn y Scots Trad Music Awards yn 2004, lle cafodd Julie ei henwebu ei hun ar gyfer Best Gaelic Singer. Yn 2005, rhyddhaodd Fowlis ei halbwm cyntaf ar ei hun Mar a Tha Mo Chridhe (Fel ydyw fy nghalon). Cafodd yr albwm ei gyhoeddi gan Iain MacDonald a Fowlis, ac enillodd Julie ei adnabyddiad rhyngwladol yn syth ar ei ôl. Y flwyddyn mwyaf brysur iddi yn ei gyrfa, gan wnaeth hi hefyd gyhoeddi albwm newydd gyda 'Dòchas'. Mae Fowlis wedi teithio dros y byd gyda hwy a hefyd ar ei hun gyda'i grŵp ei hun.

Cyhoeddwyd ei ail albwm Cuilidh ym Mawrth 2007. Gwerthodd hyn yn dda iawn yn y siartiau o gerddoriaeth draddodiadol.[4][5] Casgliad o ganeuon o Uibhist a Tuath ydyw ei halbwm. Mae'i gŵr, Éamon Doorley yn canu'r ffidil ar yr albwm. Mae ef hefyd yn aelod o'r grŵp traddodiadol Gwyddelig, Danú.

Enillodd Fowlis y wobr Horizon yn y BBC Radio 2 Folk Awards yn 2006,[3] y Folk Singer of The Year yn yr un gwobrau yn 2008[2] a chafodd ei henwebiad i'r wobr o Folk Singer of the Year yn 2007.[6] Roedd hi ar raglen o Later With Jools Holland ar BBC Two ar 25 Mai 2007, a chanodd Hùg air Bhonaid Mhòir ar y sioe. Cefnogwyr enwog Fowlis yn cynnwys Björk, Ricky Gervais a Phil Selway o Radiohead.[3]

Yn 2008, recordiodd Julie albwm gyda'i ffrindiau Muireann Nic Amhlaoibh, Ross Martin a'i gŵr Éamonn Doorley. Cyhoeddwyd yr albwm, o'r enw 'Dual' ar fis Hydref 2008, o dan 'Machair Records' ac mae hi ar gael o siopau gwefannau swyddogol yr artistiaid. Mae Fowlis hefyd wedi bod yn teithio dros yr Alban, Iwerddon, canoldiroedd Ewrop ac America, a dawnsiodd ei halbymau tra oedd hi ar daith. Recordiodd Fowlis fersiwn o gân the Beatles, 'Blackbird' ar gyfer Mojo Magazine i ddathlu pen-blwydd 'The White Album'. Cafodd y gân, sy'n cael ei berfformio yng Ngaeleg yr Alban ei chyhoeddi fel sengl i'w lawrlwytho o'i gwefan ei hun yn Hydref o 2008.

Ar 24 Ebrill 2009 trwy ei rhestr postio ar-lein, cyhoeddwyd Fowlis y byddai'n dechrau recordio ei thrydydd albwm ym Mai o'r un flwyddyn. Buasai'n canu rhai o'i chaneuon o'r prosiect ar ei thaith o Loegr ym Mai o 2009.

Gyrfa ddarlledu

golygu

Yn 2008, wrthi'n dilyn rhannau fel gwestai ar raglen draddodiadol gerddorol BBC Radio Scotland, sef Travelling Folk, a rhaglen ryngwladol cerddoriaeth Global Gathering, dechreuodd Julie gyflwyno rhaglen cerddoriaeth gwerin pob nos Iau, Fowlis and Folk.[7]

Disgograffi

golygu

Recordiau unigol

golygu

Albymau

golygu

Senglau

golygu

Recordiau eraill

golygu

'Dual'

golygu

Gyda 'Dòchas'

golygu
  • Dòchas (2002)
  • An Darna Umhail (2005)
  • TBC (2009)

Fel gwestai ar recordiau eraill

golygu
  • Evolving Tradition 3 - Cantorion Amrywiol (2003)
  • Best in Show - Cantorion Amrywiol (2003)
  • Ceòlmhor Ostaig - Cantorion Amrywiol (2004)
  • Braighe Loch Iall - Rachel Walker (2004)
  • When All is Said and Done - Danú (2005)
  • Orain nan Rosach - Fiona Mackenzie (2006)
  • Fáinne An Lae : Daybreak - Muireann Nic Amhlaoibh (2006)
  • Òg-Mhadainn Shamhraidh - Kathleen MacInnes (2006)
  • Everything You See - Runrig (2007)
  • An Cailín Rua - Kathleen Boyle (2008)
  • Transatlantic Sessions 3 Vol. 1 (CD) - Cantorion Amrywiol (2008)
  • Transatlantic Sessions 3 Vol. 2 (CD) - Cantorion Amrywiol (2008)
  • Transatlantic Sessions 3 (DVD) - Cantorion Amrywiol (2008)

Gwobrau ac enwebiadau

golygu

Gwobrau a enillodd

golygu
  • BBC Radio 2 Folk Music Awards 2008 - Folk Singer Of The Year
  • Scots Trad Music Awards 2008 - Album Of The Year (Cuilidh)
  • Scots Trad Music Awards 2008 - Gaelic Singer Of The Year
  • Best Folk Band (Dòchas) Scots Trad Music Awards 2006
  • BBC Radio 2 Horizon Award 2006
  • Gaelic Singer of the Year Scots Trad Music Awards 2005
  • Best Up and Coming Artist (Dòchas) Scots Trad Music Awards 2004
  • Traditional Singer of the Year Pan Celtic Nations Festival 2003
  • La Trophe La Bolee de Corrigans – Festival Interceltique de Lorient, 2000

Enwebiadau

golygu
  • BBC Radio 2 Folk Singer of the Year 2007
  • Gaelic Singer of the Year Scots Trad Music Awards 2004

Ffynonellau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Julie Fowlis, Cuilidh. Folk and Country Review. BBC (2007-04-05).
  2. 2.0 2.1  Robin Denselow (2008-08-01). Going back to her roots. The Guardian.
  3. 3.0 3.1 3.2  Colin Irwin. Julie Fowlis > Biography. AllMusic.
  4. http://scotlandonsunday.scotsman.com/review.cfm?id=297472007[dolen farw]
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-07. Cyrchwyd 2009-08-04.
  6. http://www.bbc.co.uk/radio2/events/folkawards2007/nominations.shtml
  7.  Julie Fowlis: Presenter Page. BBC Radio Scotland.

Dolenni allanol

golygu

Tudalennau swyddogol

golygu

Tudalennau answyddogol

golygu