Canu gwlad
Math o gerddoriaeth boblogaidd yw canu gwlad sydd â'i wreiddiau yn nhraddodiad baledi hillbilly mynyddoedd yr Appalachians yn yr Unol Daleithiau. Dylanwad arall oedd y caneuon cowboi (felly'r enw Saesneg Country and Western, er mai Country Music neu Country yw'r enw mwya ffasiynol heddiw). Mae gan ganu gwlad bwyslais ar leisiau mewn cytgord a geiriau sy'n adlewyrchu profiad y werin gyffredin. Yn aml mae'n sentimental iawn.
Math o gyfrwng | genre gerddorol, radio format |
---|---|
Math | cerddoriaeth boblogaidd, music of North America |
Dechrau/Sefydlu | 1920 |
Enw brodorol | Country music |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sonnir heddiw am 'Ganu Gwlad Newydd' neu Progressive Country hefyd, wrth i genhedlaeth newydd chwilio am burdeb gwreiddiol y canu traddodiadol ar y naill law ac ar yr un pryd arbrofi efo thechnegau mwy diweddar, o fyd roc er enghraifft.
Mae cerddorion canu gwlad yr "hen ysgol" yn cynnwys Dolly Parton a Linda Ronstadt ac, i raddau, Emmylou Harris. Mae rhai o'r grwpiau diweddar yn cynnwys Alison Krauss ac Union Station, sydd wedi gwneud albymau gyda'i gilydd, a'r Dixie Chicks â'i harmonis anhygoel.
Canu Gwlad a Chymru
golyguYng Nghymru mae'n debyg mai y cyntaf i ganu y math hyn o gerddoriaeth oedd Aled a Reg ac yn ddiweddrach Hogia Llandegai, Doreen Lewis, Traed Wadin, a Tony ac Aloma. Mae canu gwlad yn dal yn boblogaidd iawn yng Nghymru gyda chantorion fel John ac Alun, Wil Tân, Alister James, ac yn ddiweddar iawn Meinir Ann.