Gododdin (teyrnas)

Roedd y Gododdin yn llwyth ac yn deyrnas Frythonig yn Yr Hen Ogledd, sy'n awr yn ne-ddwyrain Yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr. Maent yn fwyaf adnabyddus fel pwnc y gerdd Y Gododdin, a briodolir i Aneirin.

Gododdin
Enghraifft o'r canlynolllwyth, grŵp ethnig, lle, gwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
MathY Celtiaid Edit this on Wikidata
Olynwyd ganNorthumbria Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Gododdin a'u cymdogion
Tiriogaethau Prydain 500-700

Mae'r gair Gododdin (Hen Gymraeg Guotodin) yn tarddu o'r gair Brythoneg Votadini. Roedd canolfan y deyrnas yn Din Eidyn (Caeredin heddiw). I'r gogledd roedd yn ffinio ar diroedd y Pictiaid ac i'r gorllewin ar deyrnas Frythonig arall, Ystrad Clud. Yn y de, roedd yn ffinio ar Bryneich.

Yn 638 ymosodwyd ar Din Eidyn gan yr Angliaid, ac ymddengys i'r Gododdin ddod dan reolaeth yr Angliaid tua'r adeg yma.

Rhestr o Frenhinoedd a Thywysogion Gododdin golygu

  • Tegid
  • Padarn Beisrudd
  • Edern ap Padarn
  • Cunedda
  • Typiawn/Tybion ap Cunedda
  • Meridawn
  • Ysgyran
  • Mynyddog Mwynfawr
  • Coleddog ap Morgan Bryneich
  • Dyfnwal ap Mynyddog
  • Morgan ap Coleddog