Seiclwraig rasio o Malvern yn Lloegr ydy Ceris Gilfillan (ganwyd 3 Ionawr 1980 Rugby, Lloegr). Roedd Ceris yn cystadlu mewn triathlon ar dîm Prydain cyn newid i arbenigo mewn seiclo.

Ceris Gilfillan
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnCeris Gilfillan
Dyddiad geni (1980-01-03) 3 Ionawr 1980 (44 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Tîm(au) Amatur
Prif gampau
Pencapwr Cenedlaethol
Golygwyd ddiwethaf ar
12 Gorffennaf, 2007

Cystadlodd dros Loegr yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur, Maleisia, yn 1998. Cafodd le ar dîm WCPP (World Class Performance Plan) Prydain yn 2001 a bu'n byw ac ymarfer yn Ffrainc,[1] a llwyddodd i gyrraedd safle 16 yn rheng merched seiclo'r byd.[2] Cynrychiolodd Brydain yng Ngemau Olympaidd 2002 yn Sydney, Awstralia.

Ymddeolodd Ceris o rasio yn 2003, er iddi treulio'r ddwy flynedd cyn hynny yn ymarfer tuag at Emau Olympaidd yr Haf Athen 2004.

Canlyniadau golygu

1997
2il Pencampwriaethau Iau Ewropeaidd, Duathlon
1998
1af   Pencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser Merched, Prydain
1999
3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched, Prydain
3ydd Pencampwriaethau Ewropeaidd o dan 23, Treial Amser
2000
1af   Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Merched, Prydain
1af Ras 5 diwrnod, Grand Prix Feminin International du Quebec
2il Cam 4, Grand Prix Feminin International du Quebec
3ydd Cam 3, Grand Prix Feminin International du Quebec
3ydd Ronde van Drenthe
2001
1af Cystadleuaeth Reidiwr Ifanc Gorau, Hewlett Packard Women's Challenge, Idaho
2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Merched, Prydain
4ydd Tour of Majorca, Sbaen
5ed Ras Cwpan y Byd, Fleche Wallace, Gwlad Belg
5ed Ras Cwpan y Byd, Montreal, Canada

Cyfeiriadau golygu

Rhagflaenydd:
Nicole Cooke
  Pencampwr Cenedlaethol Ras Ffordd Merched
2000
Olynydd:
Nicole Cooke
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.