Gorseth Kernow
Sefydliad diwylliannol Cernywaidd a sefydlwyd i gynnal ysbryd Celtaidd cenedlaethol Cernyw yw Gorseth Kernow ('Gorsedd Cernyw'). Mae'n cyfateb i Gorsedd y Beirdd yng Nghymru a Goursez Vreizh yn Llydaw ac yn cydweithredu â'r chwaer orseddau hynny.
Enghraifft o'r canlynol | gorsedd |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1928 |
Pennaeth y sefydliad | Grand Bard |
Sylfaenydd | Henry Jenner |
Rhagflaenydd | Cornish bards before 1928 |
Pencadlys | Cernyw |
Gwefan | http://www.gorsethkernow.org.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cefndir
golyguSefydlwyd Gorseth Kernow gan Henry Jenner yn 1928 yn Boscawen-un. Un o arweinwyr cynnar i fudiad i ailsefydlu'r Gernyweg oedd Jenner, a chymerodd yr enw barddol 'Gwas Myghal' ("Gwas Mihangel"). Cafodd ef a deuddeg arall eu hurddo gan Archdderwydd Cymru. Cynhaliwyd y Gorseth bob blwyddyn ers hynny (ac eithrio yn yr Ail Ryfel Byd. Mae'r rhai a urddwyd yn feirdd yn cynnwys Ken George, R. Morton Nance ("Mordon") a'r ysgolhaig Peter Berresford Ellis.
Amcan swyddogol Gorseth Kernow yw "cynnal ysbryd Celtaidd cenedlaethol Cernyw," ac mae'n cefnogi pob ymdrech i hyrwyddo'r iaith Gernyweg. Yn ogystal, mae'r Gorseth yn hyrwyddo hanes a diwylliant Cernyw. Fe'i cynhelir yn flynyddol mewn gwahanaol ardaloedd ac mae'n rhan bwysig o fywyd Cernyw, fel yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru, gyda llawer o bobl yn cystadlu ynddi.
Urddir pobl sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i ddiwylliant Cernyw â'r teitl 'Bardd' (ni cheir 'derwyddon' ac 'ofyddion' fel yng Nghymru). Anrhydedd diwyllianol yw hyn, yn hytrach na chydnabyddiaeth o ragoriaeth fel bardd fel y cyfryw. Rhoddir enwau barddol Cernyweg i'r 'beirdd' hyn gan yr archdderwydd a'u derbyn i Goleg y Beirdd.
Hanes
golyguCynhaliwyd y seremoni gyntaf yng ngylch cerrig Boscawen-Un yn 1928. John Owen Williams (Pedrog), y bardd ac archdderwydd o Gymro, a agorodd yr orsedd, ar erfyniad Henry Jenner a Robert Morton Nance, ar batrwm Gorsedd y Beirdd yng Nghymru. Henry Jenner fu'r Prifardd cyntaf. Roedd y 'beirdd' eraill yn cynnwys:
- Michael Ambrose Cardew, (Myghal An Pry)
- Charles G. Henderson, (Map Hendra)
- William Benjamin Tregoning Hooper, (Bras Y Golon)
- James Dryden Hosken, (Caner Helles)
- Kenneth Hamilton Jenkin, (Lef Stenoryon)
- Syr Arthur Quiller-Couch, (Marghak Cough)
- Edgar Algernon Rees, (Carer Losow)
- George Sloggett, (Gwas Petrock)
- Parch. Thomas Taylor, (Gwas Ust)
- Herbert Thomas, (Barth Colonnek)
- James Thomas, (Tas Cambron)
- John Coulson Tregarthen, (Mylgarer)
Mae Gorseth Kernow yn cydnabod ac yn defnyddio pob fersiwn o'r iaith Gernyweg adfywiedig (gweler Cernyweg).
Beirdd Cernyw a lleoliada'r Orsedd ers 1899
golygu- 1899 Cymru
- Matthews, John Hobson (D) (Mab Cernyw)
- Reynolds, Reginald (D) (Gwas Piran)
- Reynolds, Hettie Tangye (D) (Merch Eia)
- 1903 Llydaw
- Jenner, Henry (D) (Gwas Myghal)
- 1904 Cymru
- Jenner, Katherine Lee (D) (Morvoren)
- Jewell, L C Duncombe (D) (Bardd Glas)
- 1928 Cymru
- Bluett, Albert Marwood (D) (Gwryghonen Vew)
- Carah, Parch. James Sims (D) (Gwas Crowan)
- Doble, Parch. Canon Gilbert Hunter (D) (Gwas Gwendron)
- Nance, Robert Morton (D) (Mordon)
- Pool, Annie (D) (Myrgh Piala)
- Roberts, Trelawney (D) (Gonader A Bell)
- Rowe, Joseph Hambley (D) (Tolzethan)
- Watson, William Charles David (D) (Tirvab)
- 1928 Boscawen-Un
- 1929 Karnbre / Carn Brea
- 1930 The Hurlers
- 1931 Pensans / Penzance
- 1932 The Merry Maidens, St Buryan
- 1933 Roche Rock
- 1934 Padderbury Top, Menheniot
- 1935 Pensans / Penzance
- 1936 Kelly Round, Wadebridge / Pons War Wlan
- 1937 Boscawen-Un
- 1938 Trippet Stones, Bodmin
- 1939 Chylason, Carbis Bay,
- 1940-1945 RIC (Amgueddfa Truro)
- 1946 Perran Round, Perranzabuloe
- 1947 Lanstefan / Launceston
- 1948 Carwyen, Cambron
- 1949 Mount Charles Menhyr
- 1950 Boscawen-Un
- 1951 Padstow / Lodenek
- 1952 Trethevy, St Cleer
- 1953 Trencrom, Lelant
- 1954 Castledore, Golant
- 1955 The Merry Maidens, St Buryan
- 1956 Castle Cannyck, Bodmin
- 1957 Predannack Cross, Mullion
- 1958 Perran Round, Perranzabuloe
- 1959 Kelliwik, Callington
- 1960 Cambron / Camborne
- 1961 Bude Castle
- 1962 Barrowfield, Newquay
- 1963 Giant's Rock, Zennor
- 1964 Tintagel
- 1965 Goodern, Kea
- 1966 Porthya / St Ives
- 1967 Essa / Saltash
- 1968 Lanust / St Just in Penwith
- 1969 Lyskerrys / Liskeard
- 1970 Perran Round, Perranzabuloe
- 1971 The Merry Maidens, St Buryan
- 1972 Castell Launceston / Dunheved
- 1973 Mount Charles Menhyr
- 1974 Glasney, Pennrynn / Penryn
- 1975 Bude Castle
- 1976 Heyl / Hayle
- 1977 Nine Maidens, St Columb Major
- 1978 Boscawen-Un
- 1979 Bosvenegh / Bodmin
- 1980 Essa / Saltash
- 1981 Nance, Illogan
- 1982 Lanust / St Just in Penwith
- 1983 St Kew
- 1984 Kelliwik / Callington
- 1985 Perran Round, Perranzabuloe
- 1986 The Merry Maidens, St Buryan
- 1987 Anthony House, Torpoint
- 1988 Poldhu, Mullion
- 1989 Lostwydhyel / Lostwithiel
- 1990 Marhasvean / Marazion
- 1991 Roche Rock
- 1992 Perran Round, Perranzabuloe
- 1993 Bude Castle
- 1994 Cambron / Camborne
- 1995 Marhasvean / Marazion
- 1996 Lyskerrys / Liskeard
- 1997 Bosvenegh / Bodmin
- 1998 Lanust / St Just in Penwith
- 1999 Heyl / Hayle
- 2000 Aberfal / Falmouth
- 2001 Sen Colom / St Columb
- Gwanwyn 2002 Castel Pendynas, Aberfal / Pendennis, Falmouth
- Awst 2002 Pensilva,
- 2003 Lannstefan / Launceston
- 2004 Truru / Truro
- 2005 Ponswad / Wadebridge
- 2006 Resruth / Redruth
- 2007 Pensans / Penzance
- 2008 Logh / Looe
- 2009 Essa / Saltash
- 2010 Porthia / St Ives
- 2011 Hellys / Helston
- 2012 Reskammel / Camelford
- 2013 Glasney, Pennrynn / Penryn
- 2014 Penntorr / Torpoint
- 2015 Sen Austel / St Austell
- 2016 Lannaghevran / St Keverne
- 2017 Lannstefan/Launceston
- 2018 Towan Blistra/Newquay
- 2019 Lannust / St Just in Penwith
- 2020 Seremoni diogel Covid-19 Truru / Truro
- 2021 Porthbud–Strasnedh / Bude-Stratton
- 2022 Heyl / Hayle
- 2023 Lannwedhenek / Padstow
- 2024 Kelliwik / Callington
Rhestr o Brifeirdd Gorseth Kernow ers 1928
golygu- Gwas Myhal (Henry Jenner) 1928-1934
- Mordon (Robert Morton Nance) 1934-1959
- Talek (E. G. R. Hooper) 1959-1964
- Gunwyn (George Pawley White) 1964-1970
- Trevanyon (Denis Trevanion) 1970-1976
- Map Dyvroeth (Richard Jenkin) 1976-1982
- Den Toll (John Miners) 1982-1985
- Map Dyvroeth (Richard Jenkin) 1985-1988
- Gwas Constantyn (John Chesterfield) 1988-1991
- Caradok (Jori Ansell) 1991-1994
- Cummow (Brian Coombes) 1994-1997
- Bryallen (Anne Trevenen Jenkins) 1997-2000
- Jowan an Cleth (John Bolitho) 2000-2003
- Tewennow (Rod Lyon) 2003-2006
- Gwenenen (Vanessa Beeman) 2006-2009
- Skogynn Pryv (Mick Paynter) 2009–2012
- Steren Mor (Maureen Fuller) 2012–2015
- Telynor an Weryn (Merv Davey) 2015–2018
- Melennek (Elizabeth M. Carne) 2018–2021
- Mab Stenak Vur (Pol Hodge) 2021-2024
- Gwythvosen (Jenefer Lowe) 2024-
Ffynonellau
golygu- Hanes Gorsedd y Beirdd gan Geraint Bowen a Zonia Bowen . Cyhoeddiadau Barddas, Dinbych 1991
- Craig Weatherhill, Cornish Place Names & Language (Sigma Leisure, 1995) ISBN 1-85058-837-6
- Jon Jenkin, Byrth Gorseth Kernow 1928-2007: Bards of the Gorseth of Cornwall (Gorseth Kernow, 2007) ISBN 1-903668-01-6
Dolenni allanol
golygu- Fideo o'r seremoni yn Penzance, 2007
- gwefan swyddogol Archifwyd 2015-08-17 yn y Peiriant Wayback
- Rol Byrth Gorseth Kernow, 1947 Archifwyd 2009-07-10 yn y Peiriant Wayback
- Hanes Gorseth Kernow Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback
- Rhestr Prifeirdd Archifwyd 2009-08-30 yn y Peiriant Wayback