Cewri (mewn llên gwerin Cymraeg)
Mae cewri yn ymddangos yn rheolaidd yn llên gwerin a mytholeg Cymraeg. Y rhai mwy nodedig yw Bendigeidfran fab Llyr, Brenin mytholegol Ynys Prydain yn ail gainc y Mabinogi, Idris Gawr o Cader Idris, ac Ysbaddaden Bencawr yn un o'r chwedl Arthuraidd cyntaf, Culhwch ac Olwen. Mae Arthur a Gwalchmai fab Gwyar yn ymddangos hefyd fel y rhai sy'n erlid cewri.[1]
Math | cawr |
---|
Mae Sieffre o Fynwy hefyd yn disgrifio cewri fel trigolion Prydeinig gwreiddiol, a gafodd eu llethu gan ymsefydlwyr dynol.[2]
Chwedlau
golyguCewri yn y Mabinogion
golyguYn chwedl Branwen ferch Llyr, caiff Ynys Prydain ei reoli gan Bendigeidfran, nad yw erioed wedi ffitio mewn annedd. Hefyd yn yr Ail Gainc, dygir y Pair Dadeni i Gymru o Iwerddon gan y cawr Lassar Llaes Gyfnewid a'i wraig, Cymidei Cymeinfoll. [3]
Yn chwedl Culhwch ac Olwen, cewri yw'r gelynion. Ysbaddaden yw tad Olwen, morwyn brydferth sydd dal llygad Culhwch fab Cilydd, ac yn gefnder i Frenin Arthur. Mae'n cael ei ladd ar ddiwedd y chwedl gan ei nai Goreu fab Custennin,[4] tra bo Wrnach, cawr arall, yn cael ei ladd gan Cei.
Cewri nodedig eraill
golyguHonna Historia Brittonum fod Benlli Gawr yn frenin cynnar ar Bowys. Cafodd ei losgi i farwolaeth ar ôl ymddwyn yn ymosodol tuag at Garmon.
Canthrig Bwt, oedd cawres a gwrach ddrwg-enwog yn llên gwerin Gwynedd, a oedd yn byw o dan garreg yn Nant Peris a lladdodd a bwytodd nifer o blant yr ardal.[5]
Mae sôn am Gogfran y cawr yn Trioedd Ynys Prydain fel tad Gwenhwyfar, trydedd gwraig Arthur. Mae'r chwedl yn adrodd hanes carcharu nifer o'i feibion gan gewri Bron Wrgan, gan arwain Arthur i ymosod ar eu cartref i rhyddhau ei frodyr-yng-nghyfraith.