Chakrasana
Asana mewn ioga modern fel ymarfer corff yw Chakrasana (Sansgrit: चक्रासन; IASTCakrāsana) Yr Olwyn neu Urdhva Dhanurasana (Sansgrit: ऊर्ध्वधनुरासन; IAST: Ūrdhvadhanurāsana) sef Bwa ar i Fyny. Dosberthir yr asanas i wahanol fathau, a gelwir y math hwn yn gefnblyg. Hwn yw asana cyntaf y dilyniant Ioga ashtanga vinyasa. Credir ei fod yn ystwytho'r asgwrn cefn gan ei wneud yn fwy hyblyg. Mewn acrobateg a gymnasteg gelwir safle'r corff hwn yn 'bont'.
Math o gyfrwng | asanas ymestyn |
---|---|
Math | asanas gwrthdro |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw Chakrasana o'r geiriau Sansgrit चक्र chakra, "olwyn", ac आसन āsana, "osgo neu safle'r corff". Daw'r enw Urdhva Dhanurasana o'r Sansgrit urdhva ऊर्ध्व, i fyny, a dhanura धनु, bwa (saeth).[1][2][3]
Darlunnir yr ystum hwn yn y gyfrol Sritattvanidhi (19g) fel Paryaṇkāsana, Y Glwth.[4]
Amrywiadau
golyguMae llawer o amrywiadau o'r ystum yn bosibl, gan gynnwys:
- Eka Pada Urdhva Dhanurasana (Bwa i Fyny ar Ungoes): mae un goes yn cael ei chodi'n syth i fyny.[5]
- Mewn Utthita Vasisthasana (Ochr Astell) codir un fraich gyda'r goes gyferbyn wedi'i sythu.[6]
Gweler hefyd
golygu- Viparita Dandasana (Ffon Wrthdro), lle mae'r cefn yr un mor fwaog ond mae'r elinau yn fflat ar y ddaear.
- Rhestr o asanas
Llyfryddiaeth
golygu- Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. ISBN 978-1855381667.
- Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. ISBN 81-7017-389-2.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Chakrasana". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-04. Cyrchwyd 2011-04-11.
- ↑ Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ Kaul, H. Kumar (1993). Yoga and drug addiction. B.R. Publishing Corporation. t. 92. ISBN 978-81-7018-742-4.
- ↑ Sjoman 1999, t. 70.
- ↑ "Eka Pada Chakrasana". Jaisiyaram. Cyrchwyd 21 Mawrth 2013.
- ↑ YJ Editors (31 Awst 2009). "Wild Thing". Yoga Journal. Cyrchwyd 8 Chwefror 2019.
One poetic translation of Camatkarasana means "the ecstatic unfolding of the enraptured heart."