Utthita Vasisthasana (Ochr Astell)
Asana, neu osgo'r corff o fewn ioga yw Utthita Vasisthasana (a dalfyrrir weithiau i Vasisthasana) neu Ochr Astell. Asana cydbwyso ydyw ac mae i'w gael mewn ymarferiadau mewn ioga modern fel ymarfer corff. Ystyr y gair astell yw planc.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas cydbwyso |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguDaw enw'r ystum o'r Sansgrit उत्थित Utthita estynedig, वसिष्ठ Vasiṣṭha, doethor,[1] a आसन āsana, "osgo" neu "siap y corff".[2][3]
Nid yw'r asana hwn yn cael ei ddisgrifio yn y testunau ioga hatha canoloesol. Mae'n ymddangos yn yr 20g yn Ioga ashtanga vinyasa gan Pattabhi Jois.[4]
Amrywiadau
golyguMae Camatkarasana (Y Peth Gwyllt) (o Sanskrit चमत्कार camatkār, gwyrth) yn cadw'r rhan fwyaf o bwysau'r corff ar un droed a llaw ar yr un ochr, gan godi'r penelin arall uwch y pen, tro'r fraich, a'r droed arall y tu ôl i'r pen-glin, felly mae'r corff yn wynebu'r ochr ac ychydig i fyny.[5][6]
-
Vasisthasana B, gan afael ym mysedd y traed
-
Camatkarasana, Y Peth Gwyllt, osgo modern rhwng Vasisthasana a Chakrasana
-
Vasisthasana gan afael ym mysedd y traed, a defnyddio props
Gweler hefyd
golygu- Rhestr o safleoedd ioga
- Chaturanga Dandasana - Styllen isel
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga. Schocken Books. tt. 309–311.
- ↑ Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ "Extended Side Plank | Utthita Vasiṣṭhāsana". Pocket Yoga. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2018.
- ↑ Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 100–101. ISBN 81-7017-389-2.
- ↑ Copham, K. Mae (19 Mai 2016). "5 Downward Dog Variations To Tone Your Whole Body". Mind Body Green.
- ↑ Buchanan, Jacqueline. "4 Variations for Downward-Facing Dog Pose". Do You Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-01. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2019.