Characteristica universalis
Cyfeiria'r term Ladin characteristica universalis, y gellir ei gyfieithu fel "cymeriad cyffredinol" neu "priodoledd gyffredinol" yn Gymraeg, at yr iaith gyffredinol a ffurfiol a ddychmygwyd gan yr athronydd Almaenig Gottfried Leibniz (1646-1716) i gyfleu cysyniadau mathemategol, gwyddonol, a metaffisegol. Gobeithiai Leibniz y gallai felly greu iaith wyddonol gyffredin i bawb i'w defnyddio o fewn fframwaith calcwlws rhesymegol cyffredinol (calculus ratiocinator).
Enghraifft o'r canlynol | cysyniad, formal language |
---|
Mae'r characteristica universalis yn gysyniad canolog yng ngwaith Gottfried Leibniz. Pan ysgrifennai yn Ffrangeg, defnyddiai'r ymadrodd cyfystyr spécieuse générale i'w disgrifio. Digwydd yr ymadrodd yn aml yng nghyd-destun bwriad Leibniz o greu gwyddoniadur cynhwysfawr a fyddai'n cwmpasu gwybodaeth y dynolryw i gyd.
Ar lefel ymarferol, math o iaith artiffisial ysgrifenedig seiliedig ar arwyddion sy'n cynrychioli syniadau yn hytrach na sain, yn debyg i ideogramau'r Tsieinaeg yw'r characteristica universalis. Ceir gwreiddyn y syniad yng ngwaith Francis Bacon, a damcaniaethwyd iaith o'r math gan Descartes hefyd, ond fe'i cysylltir fel system neilltuol â Leibniz. Gobeithiai Leibniz greu gwyddor ysgrifenedig i gyfleu pob syniad a ffaith sy'n perthyn i fyd gwyddoniaeth a'r meddwl dynol, a hynny trwy gyfrwng system o ideogramau, pictogramau a deiagramau a fyddai'n osgoi'r amwysedd ystyr sydd ynghlwm wrth iaith yn gyffredinol (gwelir yr amwysedd yma wrth geisio cyfieithu gair haniaethol o un iaith i iaith arall - yn achos characterictica universalis, er enghraifft).