Charles Edwards
Llenor Cymraeg oedd Charles Edwards (1628 - wedi 1691), sy'n fwyaf adnabyddus fel awdur Y Ffydd Ddi-ffuant.[1]
Charles Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1628 ![]() Rhydycroesau ![]() |
Bu farw | 1691 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd ![]() |
BywgraffiadGolygu
Ganed ef yn Rhydycroesau ym mhlwyf Llansilin, Sir Ddinbych, yn 1628. Aeth i Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, ond cofnodir iddo gael ei yrru o'r coleg yn 1648 oherwydd iddo wrthod derbyn awdurdod y Senedd. Cafodd ysgoloriaeth i Goleg yr Iesu yr un flwyddyn, a graddiodd yn 1649. Yn 1650, bu'n bregethwr teithiol yn ôl trefniadau Ddeddf Lledaenu'r Efengyl yng Nghymru, yna yn 1652-3 cafodd fywoliaeth Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Collodd y fywoliaeth honno yn 1659.[1]
Cyhoeddodd Y Ffydd Ddi-ffuant (1667) yn Rhydychen. Yn 1671, cyhoeddodd Dad-seiniad Meibion y Daran, argraffiad newydd o gyfieithiad Morris Kyffin o lyfr yr esgob Jewel, Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr (1595). Yr un flwyddyn, cyhoeddodd ail argraffiad o Y Ffydd Ddi-ffuant gydag ychwanegiad "Hanes y ffydd ymhlith y Cymru". Yn ddiweddarach, bu'n cydweithio a Stephen Hughes a Thomas Gouge ar waith y Welsh Trust, a bu yn Llundain hyd 1684 yn arolygu'r gwaith o gyhoeddi llyfrau Cymraeg rhad i'r tlodion. Cyhoeddodd drydydd argraffiad o Y Ffydd Ddiffuant yn 1677, a Llyfr Plygain gydag Almanac yn 1682. Bu yn ardal Croesoswallt am gyfnod, efallai yn weinidog Anghyfffurfiol yno, cyn dychwelyd i Lundain, lle cyhoeddodd An Afflicted Man's Testimony concerning His Troubles yn 1691. Ni cheir cyfeiriad ato wedi hynny.[1]
LlyfryddiaethGolygu
- Y Ffydd Ddi-ffuant (1667, 1671)
- Y Ffydd Ddi-ffuant, sef, Hanes y Ffydd Gristianogl (1677). Yr argraffiad helaethach sydd wedi dod yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg.[1]
- Hebraismorum Cambro-Britannicorum Specimen (1676)
- Llyfr Plygain gydag Almanac (1682)
- Fatherly instructions: being select pieces of the writings of the primitive Christian teachers, translated into English, with an appendix, entituled Gildas Minimus (1686)
- An Afflicted Man's Testimony concerning His Troubles (1691)
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru); R. Geraint Gruffydd, Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth, gol. E. Wyn James (2019)